Er gwaethaf y tywydd gwlyb daeth tyrfa niferus i’r Babell Lên ar faes Eisteddfod Genedlaethol Tregaron prynhawn ddydd Sadwrn cyntaf yr eisteddfod, Gorffennaf 30, i glywed y Parch. D. Ben Rees yn lansio ei lyfr ‘Hanes Tregaron a’r Cyffiniau’.
Fel y dywedodd yr awdur yn ei anerchiad i’r gynulleidfa roedd y gyfrol yn sôn am hanes ei fro febyd ac roedd y llyfr yn gofnod o’i atgofion fel bachgen oedd ‘yn dod o Dregaron ond a fagwyd yn Llanddewi Brefi’.
Siaradai am sut mai bro ei fagwraeth yw cnewyllyn canolog i’r Eisteddfod Genedlaethol eleni a siaradodd yn ddifyr am waddol cyfoethog yr ardal o ran ei diwylliant, iaith a threftadaeth addysgiadol, grefyddol a gwleidyddol.
Yr union ddylanwadau ac unigolion a fu’n gymaint o ysgogiad a dylanwad arno yntau ac yn hanes gweddill Cymru.
Ceir rhagair yn y gyfrol gan y darlledwr Huw Edwards, un o ddisgynyddion Edwardiaid Bwlch-llan, ac sydd a’i wreiddiau yn ddwfn yn sir yr eisteddfod eleni.
Fel y dywed Huw Edwards yn ei ragair, mai cyfrol D. Ben Rees yn rhoi cipolwg inni o’r ‘hen Sir Aberteifi’ a dyma’n union a drafododd yr awdur yn ei gyflwyniad yn y Babell Lên.
Soniodd am ei eni ar fferm Abercarfan, sef hanner ffordd rhwng Tregaron a Llanddewi, a sut roedd y teulu yn siopa yn Nhregaron ac aelodau’r teulu wedi eu claddu ym mynwent Capel Bwlchgwynt ond roedd addoli’r teulu yng Nghapel Bethesda yn Llanddewi.
Amlinellodd bod ffocws ei gyfrol yn canolbwyntio ar yr unigolion hynny yn yr ardal nad oedd eu hanes na’u cyfraniad wedi cael eu cofnodi cynt mewn cyhoeddiadau ar hanes yr ardal. Fel rhan o’r bennod ar hanes Tregaron, cyfeiriodd at ei ddad-cu William Rees, Waunfawr, dyn a oedd wedi bod yn gyfrannwr a chymwynaswr mawr ym mywyd y gymdeithas yn Nhregaron, a chyfaill i Joseph Jenkins, Trecefel, Tregaron, y Swagman enwog a ddychwelodd o Awstralia.
Roedd William Rees yn aelod o fwrdd Gwarcheidwaid y wyrcws yn Nhregaron, yn Gadeirydd Pwyllgor Adeiladau Wyrcws y dref ac yn amddiffynnwr cadarn o hawliau a buddiannau’r tlodion a’r anghenus yn y gymuned leol.
Wrth ysgrifennu am Landdewi mae’n rhoi sylw i bwysigrwydd fferm Abercarfan, lle ganwyd D.Ben Rees, ac a fu’n ganolbwynt pwysig i gychwyn y Diwygiad Methodistaidd yng Nghymru, gyda William Williams, Pantycelyn, yn cynnal dwy seiat mewn dau le cyfagos i Abercarfan, sef Pant-Bach a Gwyngoed. Roedd tad-cu D. Ben Rees, sef David Benjamin, a thad ei fam, wedi symud i’r fferm gyda’i deulu yn 1912 a disgrifia D. Ben Rees ef yn y gyfrol ‘fel un o weddiwyr eneiniedig y Methodistiaid Calfinaidd’.
Mae’r gyfrol yn dibynnu ar gyfuniad o atgofion a gwybodaeth D. Ben Rees am y cymeriadau a’r sefydliadau yn y gwahanol bentrefi ac ardaloedd o gwmpas Tregaron yn ogystal ag ar ffynonellau ffeithiol eraill.
Rhestrir 30 o bentrefi yn y gyfrol a phob un gyda’i phennod ei hun. Does dim amheuaeth ei bod yn gofnod defnyddiol a difyr iawn o hanes y cymwynaswyr a’r cymeriadau nad ydynt o reidrwydd wedi cael eu cofnodi gan y llyfrau hanes prif lif. Dyma pam mae’r gyfrol wedi ei chyflwyno er cof am ei athrawes hanes yn Ysgol Uwchradd Tregaron, sef Eirlys Watcyn Evans (nee Williams), ffigwr allweddol yn ysbrydoli ei ddiddordeb yn hanes ei fro a’i wlad.
Yn sicr roedd D. Ben Rees yn ei gyflwyniad yn y Babell Lên wedi rhoi blas awchus i aelodau’r gynulleidfa o’r unigolion a’r hanesion lleol, a oedd hyd nawr wedi cael eu gwthio i ymylon y cofnodion hanes.
Os dymunwch brynu copi o’r gyfrol ar faes yr eisteddfod, cewch draw at stondin Y Lolfa ble mai copi clawr caled neu feddal ar werth. Mae’n gipolwg difyr iawn ar hanes lleol. Mwynhewch ei darllen.