System un ffordd wedi dechrau.

System drafnidiaeth y dref.

Cerith Evans
gan Cerith Evans

Mae’r system un ffordd wedi cychwyn heddiw. Trwy gydol y bore mae Cyngor Sir Ceredigion wedi bod yn rhoi arwyddion allan ar y brif ffordd mewn i Dregaron.

Mae angen i bobol gymryd sylw pan rydych yn dod mewn i Dregaron oherwydd mae llawer o newid wedi digwydd i’r brif ffordd. Hefyd mae llawer o gerbydau wedi mynd lawr y ffordd “dim mynediad.” Mae’r arwyddion wedi cael eu rhoi fyny er lles iechyd a diogelwch, cymwerch sylw.

Mae’r Cyngor Sir a’r Eisteddfod yn gofyn i bobol sydd yn byw ar y brif ffordd mewn i Dregaron i beidio parcio ar y ffordd oherwydd fydd hyn yn achosi  problemau mawr i’r traffic fydd yn dod mewn i Dregaron yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol.

Mae map o Dregaron wedi cael ei roi ar wefan Cyngor Sir Ceredigion sydd yn dangos i chi pa ffordd fydd yn cael ei wneud yn un ffordd ac hefyd fydd mwy o wybodaeth ar y wefan hon i wneud efo’r Eisteddfod.

Os ydych angen fwy o wybodeth am y system un ffordd cysylltwch efo Cyngor Sir Ceredigion.