Daeth dros 80 o blant ynghyd â’u rhieni a gwirfoddolwyr i Neuadd a Chanolfan Llanddewi Brefi ar Noson Calan Gaeaf i gyd- ddathlu gydag aelodau’r Clwb Ieuenctid.
Roedd pawb yn eu gwisg ffansi yn gwrando ar gerddoriaeth a dawnsio ym mharti’r penglogau a’r ysbrydion dan oleuni’r sgrîn ddigidol newydd.
Cyfle i fochio pizzas, candi hallt a melys, afalau taffi a losin arswydus.
Roedd tynnu lluniau dan y Bwa Balŵns du ac oren yn boblogaidd iawn.
Diolch i Gronfa Cynnal Llanddewi a’r Gronfa Platinwm doedd dim angen gwario ceiniog.
Bu cystadleuaeth dyfalu pwysau’r bwmpen yn lot o sbort a daeth ag arian i’r gronfa. Rhiannon Eve oedd yr enillydd. Da iawn hi.
Aeth y plant ar drywydd cliwiau ac i grynhoi melysion o dŷ i dŷ cyn i’r glaw eu gorfodi yn ôl i’r Ganolfan.
Diolch i bawb a helpodd gyda’r noson. Dyna beth oedd sbort!