Nadolig Bwlchgwynt

Braf gweld plant yr Ysgol Sul nôl yn y Sêt Fawr

gan Fflur Lawlor

Wrth i 2022 ddod i’w therfyn braf oedd cael cynnal Gwasanaeth Nadolig yng Nghapel Bwlchgwynt lle daeth cynulleidfa dda ynghŷd i fwynhau a chymryd rhan.

Cafwyd eitemau gan gwahanol unigolion, Parti Canu Merched Blwyddyn 7, y Clwb Ieuenctid a phlant yr Ysgol Sul.

Diolch i bawb a gyfrannodd at lwyddiant y prynhawn.

Dymunwn Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd!