Menter a Busnes

Yr ardd wedi swyno sawl bardd!

Gwion James
gan Gwion James
Gethin Jones wrth ei fodd yn y BAR'DD

Gethin Jones wrth ei fodd yn y BAR’DD

Olwen, June a'r Prifardd Mei Mac

Olwen,June a’r Prifardd Mei Mac

Nodyn gan yr Archdderwydd

Nodyn gan yr Archdderwydd

Y Dref Fach yn sicr wedi creu Swn Mawr!

Y Dref Fach yn sicr wedi creu Swn Mawr!

Mis ers i’r Eisteddfod orffen mae’r pafiliwn a’r holl stondinau wedi mynd ac mae daear Tregaron unwaith eto yn dir amaethyddol, ac mae bron yn anodd credu fod y fath brysurdeb wedi bod yn y dre o gwbl.

Buodd yr Eisteddfod yn lwyddiant ysgubol, gyda nifer yn ei galw ‘yr Eisteddfod ore’ erioed’ – clod yn wir i Dregaron ac i Geredigion gyfan am wneud gymaint o ymdrech dros y pedair blynedd diwethaf.

Daeth Cymru gyfan i Dregaron, gyda mwy o garafanwyr na fu mewn unrhyw Eisteddfod erioed o’r blân. Cafwyd cystadlu a pherfformiadau gwych a bu rhai digwyddiadau fel Urddo’r Prif Weinidog yn oesol.

Yn sgil rheoli effeithiol y Cyngor Sir a’r Heddlu ni welwyd dim o’r problemau traffig oedd pawb wedi gofidio.

Y sylwadau oedd yn codi tro ar ôl tro gan ymwelwyr oedd am harddwch yr ardal a natur gartrefol a chroesawgar y bobl leol. Roedd nifer yn ychwanegu y byddant yn sicr yn ail âymweld  Thregaron eto i weld mwy o’r ardal ehangach.

Wrth i filoedd o Gymry lanio yn y ‘Dref Fach â Sŵn Mawr’ roedd cyfle gan fusnesau’r dre i elwa. Roedd nifer gan gynnwys y Talbot, Y Clwb Rygbi a’r Clwb Bowlio wedi adrodd wythnos wych, ac roedd masnachwyr lleol ar y maes fel Teifi Toastie yn ddi-stop.

Ond efallai mai’r fenter a wnaeth yr argraff fwyaf oedd y BA’RDD, sef cynllun Olwen Garner a’i ffrind June Y Bryn (June Owens) i agor bar yng ngardd rhif 10 Min y Gors. Mae’r ddwy wedi arfer rhedeg bar yn ystod y rasus ond doedd neb wedi rhagweld llwyddiant y BA’RDD.

“Os bydde’r steddfod wedi bod yn 2020 fel o’dd e fod bydde’r BA’RDD ddim wedi digwydd, ” meddai June a gafodd y syniad yn ystod y cyfnod clo. “O’dd lleoliad da gyda ni ond d’odd dim syniad da ni shwt bydde hi’n mynd- ond o’dd e’n, ffantasig” ychwanegodd.

“O’dd e’n lot o waith ond gethon ni gyment o sbort- o’ ni itha trist pan dath e i ben. Cwrddo ni bobl lyfli o bob rhan o Gymru a lot o bobl leol- ni’n ddiolchgar i bawb am gefnogi”

Uchafbwynt yr wythnos i Olwen a June oedd cael neb llai na’r Archdderwydd yn y gegin yn ysgrifennu penillion!

“O’dd hi’n bwrw glaw ar y Nos Sadwrn gynta felly d’ath rhai i’r tŷ i gysgodi” meddai June “Roedd Myrddin ap Dafydd yn grêt, sgrifennodd e bennill yn ein llyfr sgrap fel pawb arall, ” ychwanegodd.

Mae’r Eisteddfod wedi rhoi hysbysiad gwych i’r ardal ac mae Cymru gyfan yn awr yn gwybod am Dregaron. Er fod cyfnod yr Eisteddfod wedi gorffen, megis dechrau mae’r cyfleodd i fanteisio ar y diddordeb yn yr ardal er mwyn creu gwaddol gwerthfawr.