Am 12:55 ar Ddydd Mercher y 30ain o Fawrth fe aethom ni fel Ffês Tri i’r neuadd, ac roedd yna wledd o gerddoriaeth yn aros amdanom. Roedd yr atmosffer yn anhygoel ac roedd y neuadd wedi cael ei addurno ar ein cyfer. (Cafodd Ffês 2 yr un profiad mewn gig ar wahan.)
Yn aros amdanom oedd y band enwog Y Cledrau. Roedd pawb yn edrych ymlaen at gael gwrando ar y band a’r gerddoriaeth fyw. Hefyd fe gawson ni brofiad a hanner i chwarae ar y llwyfan gyda’r band iwcelelis ‘Y Pic Tôns’. Roedd yn brofiad gwych i ni oherwydd roedd y goleuadau yn sgleinio ac roedd yr atmosffer yn werth chweil!!
Dywedodd un ferch o flwyddyn deg : “Roedd y gerddoriaeth yn wych ac roedd pawb yn edrych fel eu bod yn mwynhau yn fawr iawn”.
Mae disgyblion yr ysgol wedi defnyddio geiriau fel “gwych”, “ardderchog”, “cerddoriaeth anhygoel”. Roedd y band hefyd yn siarad â ni fel cynulleidfa ac yn gofyn i ni alw geiriau yn ôl atynt mewn caneuon galw ac ateb.
Yn wir, roedd cael y band yma yn chwarae i ni yn yr ysgol yn rhywbeth grêt, gan taw Ysgol Henry Richard oedd yr ysgol gyntaf i gael ‘Maes B’ yn eu neuadd nhw eleni. Rydym wir yn ddiolchgar am y profiad hwn, ac rydym i gyd yn edrych ymlaen yn fawr iawn at Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron.
Welwn i chi na!