Llywydd Cffi Llangeitho – cyn aelod sydd dal yn ei milltir sgwâr.

Hannah Parr yw Llywydd CFFI Llangeitho eleni. Dyma bach o’i hanes.

gan Meleri Morgan
316951575_10160963027317668

Hannah yn Sylwebi yn y Ffair Aeaf elni.

312531277_10160864750417668
71371580_10158085898772668

Hannah Parr yw ein llywydd ni eleni. Dyma bwt o’i hanes hi.

Mae wed’i magu yn Llangeitho ond bellach yn byw yn Llanon. Mae dal i deithio nôl i Langeitho i weld y ceffylau bron yn ddyddiol.

Beth yw dy Swydd?: ‘Rwy’n Athrawes y Gymraeg yn Ysgol Bro Pedr.’ (Yn ogystal â hyn mae Hannah wedi sefydlu busnes newydd yn Aberaeron cofiwch alw heibio i’w gweld os ydych yn yr ardal.)

Beth oedd dy hoff gystadleuaeth?: ‘Anodd dewis ond y Siarad Cyhoeddus a’r Barnu Stoc (ceffylau)’

Pa brofiadau newydd ges di trwy’r ffermwyr ifanc?: ‘Bron popeth!! Does dim un peth yn sefyll allan mwy na’r llall gan fod gymaint o brofiadau newydd wedi gyflawni ers ymaelodi gyda’r Clwb.’

Beth yw y wers fwyaf gwerthfawr ddysgais di o’r CFFI?: ‘Rhowch gynnig ar bopeth.  Mae cyfleoedd diri ac roedd y clwb a’r mudiad mor gefnogol o bob dim a phob un.’

Beth oedd dy lwyddiant fwyaf gyda mudiad?: ‘Ennill Siaradwyr Ifanc y flwyddyn o dan 16 ym Mhencampwriaeth Cenedlaethol Siarad Cyhoeddus Saesneg yn Stoneleigh yn 2005.’

Hoff Noson yn Clwb?: Socials! Gymaint o hwyl a sbri gyda chlybiau eraill!

‘Hawdd iawn ydy datgan, heb y cyfleoedd ces i gyda Chlwb C.Ff.I Llangeitho ac C.Ff.I Ceredigion, ni fyddaf yn mwynhau’r holl brofiadau mae gen i’r fraint o allu eu profi nawr! Dwi’n sylwebydd yn Sioe Frenhinol Cymru a Horse of the Year Show a dwi’n sicr mai o achos fy mhrofiadau fel aelod o fudiad gorau’r byd rwyf wedi magu’r hyder a’r ddawn i fedru gwneud hyn.’

Diolch o galon i Glwb C.Ff.I Llangeitho a’i holl swyddogion dros y blynyddoedd.

Os ydych chi wedi gwylio y rhaglenni’r Sioe Frenhinol a’r Ffair Aeaf ar S4C byddwch wedi’i gweld hi yn sylwebi ar yr adran geffylau.