Lledrod yn croesawu’r Eisteddfod!!

Creu, tacluso, harddu… A draig!

gan Elen James

Mae trigolion Lledrod wedi bod yn hynod o brysur yn ystod yr wythnosau diwetha’ yma yn creu, tacluso a harddu’r pentre’ ar gyfer croesawu’r Eisteddfod i Geredigion. Mae pawb wedi dod at ei gilydd yn llawn brwdfrydedd a syniadau, yn blant bach, pobl ifanc, unigolion a theuluoedd! Mae Lledrod yn llawn lliw ac yn llawn o gymeriadau newydd gan gynnwys ‘Y Ddraig’ drawiadol a godidog a fydd yn gwylio pawb wrth iddynt fynd heibio ar eu ffordd i Dregaron!!