Gyrrwyr 4×4 Yn Difrodi Tir

Gwybodaeth leol yn helpu’r heddlu

Gwion James
gan Gwion James

Yn dilyn gwybodaeth gan aelod o’r cyhoedd, mae’r heddlu wedi gallu erlyn gyrwyr 4×4 oedd yn difrodi tir ger Llynnoedd Teifi, Ffair Rhos. Yn gynharach eleni wrth ymweld â Llynnoedd Teifi un prynhawn Dydd Sadwrn daeth gwr lleol ar draws bobl ifanc yn creu difrod .

“Mae’n ardal mor bert, felly roedd e mor siomedig i weld, ” meddai. “Roedd hi’n amlwg bo’ nhw’n difrodi’r tir, ond o’ nhw’n poeni dim- roedd un allan yn ffilmio’r llall yn trial (a methu) mynd lan y bryn.”

Anfonodd y gwr oedd ddim am ei enwi luniau o’r digwyddiad at yr heddlu trwy wefan Op Snap sy’n cael ei weithredu gan ymgyrch Gam Bwyll, Heddlu Dyfed Powys. Mae’r dystiolaeth wedi galluogi’r heddlu i wneud ymholiadau gyda’r gyrrwr.

“Mae’r rhan fwyaf o yrwyr 4×4 yn parchu’r tir ac yn cadw tuag at y llwybrau addas,” meddai PCSO John Evans sy’n gyfrifol am ardal Tregaron a’r cyffiniau. “Ond yn anffodus mae rhai sydd ddim yn parchu’r gyfraith ac yn gyrru ar dir preifat a chyhoeddus gan greu difrod ac erydiad tir. Mae’r heddlu yn gwneud ymgyrchoedd i ddal a/neu addysgu gyrwyr 4×4 , ond mae natur eang iawn yr ardal yn aml yn creu her. Gofynnwn i’r cyhoedd i adrodd unrhyw ddigwyddiad o yrwyr yn troseddu trwy wefan Op Snap, gan ddefnyddio eu ffonau symudol os yw’n ddiogel i greu tystiolaeth.” ychwanegodd.

https://gosafesnap.wales/