Gorsedd Cymru 2022

Anrhydeddu bobl lleol yn Nhregaron

Gwion James
gan Gwion James
Rhiannon Evans

Rhiannon Evans

Anne Gwynne

Anne Gwynne

Cyril Evans

Cyril Evans

Wyn Mel

Wyn Mel

Huw Rhys-Evans

Huw Rhys-Evans

Yn ogystal ag urddo unigolion amlwg iawn fel Mark Drakeford a Huw Edwards eleni, mae Gorsedd Cymru hefyd yn urddo nifer o unigolion sydd â chysylltiadau agos gydag ardal Tregaron. Aeth Caron360 atynt i ofyn “Beth mae cael eich anrhydeddu gan Orsedd Cymru yn golygu i chi?”

“Braint o’r mwyaf! Cael fy anrhydeddu gan fy nghlwad fy hun, a chael bod yn rhan o sefydliad Celtaidd hynafol. “

Mae Rhiannon Evans, Blaenpennal, yn adnabyddus am ei gemwaith, sy’n ddehongliadau gwreiddiol o’n traddodiadau artistig Cymreig a Cheltaidd, yn arbennig felly chwedlau’r Mabinogion a chwlt y Seintiau.  Ers ei sefydlu yn 1971, mae Gemwaith Rhiannon a Chanolfan Cynllun Crefft Cymru wedi dod yn gyfystyr bron â Thregaron ei hun.  Mae’r Ganolfan yn hybu crefftwaith a wnaed yng Nghymru ac yn noddi artistiaid a dylunwyr o safon trwy’r siop, y gweithdy a’r Oriel ar sgwâr Tregaron.

 “Rwy’n falch iawn o’r anrhydedd wrth reswm. Mae ugeiniau o fenywod rwy’n nabod yn gweithio’n galed i gadw cymdeithasau bach i fynd, ac rwy’n gobeithio mod i’n cynrychioli rhein wrth dderbyn yr anrhydedd.”

Mae cyfraniad Anne Gwynne, Tregaron, i’w chymuned yn dyddio’n ôl dros hanner canrif.  Ymysg y cymdeithasau a’r sefydliadau sydd wedi elwa o’i gwaith mae cangen Bronnant o Ferched y Wawr, lle bu’n gyfrifol am gasglu deunydd ar gyfer cyfrol i ddathlu 50fed pen-blwydd y gangen, a Chymdeithas Hanes Tregaron.

Mae hi hefyd yn gyfrifol am ddosbarth o ddysgwyr Cymraeg yn Nhregaron.  Ond, mae’i chyfraniad mwyaf efallai i Gymdeithas Edward Llwyd.  Bu’n arwain nifer o deithiau cerdded o’r cychwyn, ac er 2004, bu’n cofnodi’r teithiau misol yn fanwl, ynghyd â nifer o luniau, gan greu archif amhrisiadwy ar gyfer y Gymdeithas.

“Mae’n fraint ac anrhydedd i gael y gydnabyddiaeth yma am fy nghyfraniad i’r gymuned leol a thu hwnt, a bydd yn achlysur arbennig iawn yma yn Nhregaron”

Anrhydeddir Cyril Evans, Tregaron, am ei gyfraniad gwerthfawr i ddiwylliant Cymru a’r Gymraeg am flynyddoedd lawer.  Bu’n gweithio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru am bron i ddeng mlynedd ar hugain, gan gyfrannu’n helaeth i fywyd a gwaith y sefydliad hwnnw. Fe’i anrhydeddwyd gan Gymdeithas Eisteddfodau Cymru am ei ymroddiad i Eisteddfod Gadeiriol Tregaron, fel ysgrifennydd a chadeirydd y pwyllgor.  Mae’n rhan allweddol o weithgareddau cymunedol yr ardal, ac yn un o’r rhai sy’n cadw Ysgoldy Llanio, hen gartref ei deulu, ar agor, gan gynnal gwasanaeth a chwrdd yno’n rheolaidd.

“Mae derbyn anrhydedd yn rhywbeth newydd i mi ond roedd y cynnig i gael fy urddo ar gaeau Tregaron yn ddigon i fy swyno. Yn y pridd hwn y mae fy ngwreiddiau ac mae naws a rhuddin pobol y fro yn gyson yn ysbrydoliaeth yn fy ngwaith creadigol” 

Yn wreiddiol o Dregaron, mae enw Wynne Melville Jones, Llanfihangel-Genau’r-Glyn yn gyfarwydd fel arloeswr PR, fel Tad Mistar Urdd ac artist. Mae’r Urdd yn agos at ei galon ac mae’n Llywydd Anrhydeddus y mudiad. Sefydlodd StrataMatrix, cwmni cyfathrebu dwyieithog cyntaf Cymru, a’i redeg yn llwyddiannus am 30 mlynedd ac mae’n un o sylfaenwyr Golwg Cyf. Wedi ymddeol, ail-gydiodd mewn Celf a bu’n hynod gynhyrchiol a llwyddiannus, gan dynnu’n helaeth ar ddyfnder ei wreiddiau yn Nhregaron a Cheredigion

“Mae fy magwraeth yn Nhregaron wedi llywio fy mywyd. Bum yn ffodus bod fy ngyrfa wedi rhoi cyfle i mi berfformio ar lwyfannau ledled y byd, serch hynny dychwelaf i Dregaron ar bob cyfle posib. Mae’n arbennig iawn i dderbyn yr anrhydedd hyn yma” 

A’i wreiddiau yn ardal Tregaron a phlwyf Llanddewi Brefi, mae Huw Rhys-Evans, Harrow, wedi gwneud enw iddo’i hun fel tenor llwyddiannus sydd wedi teithio a pherfformio ledled y byd, gan roi Cymru ar y map ar lwyfannau megis Neuadd Carnegie, Efrog Newydd, Tŷ Opera Bastille, Paris, a Neuadd Albert, Llundain.  Yn enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts, bu’n driw i’r Eisteddfod Genedlaethol ac eisteddfodau lleol ers blynyddoedd, gan ddychwelyd i feirniadu ac arwain Cymanfaoedd Canu.  Mae’n dysgu canu i ddisgyblion Ysgol Gymraeg Llundain, yn aelod o nifer o gymdeithasau, ac yn canu i godi arian at achosion Cymraeg yn Llundain yn rheolaidd.

Mae Caron360 yn dymuno’n dda i bawb sy’n cael eu hanrhydeddu eleni. Yn ystod yr Eisteddfod bydd seremonïau urddo ar y maes bore Dydd Llun a bore Dydd Gwener am 11.00