Eisteddfod Tregaron Mewn Dwylo Diogel!

Gŵr lleol yn nghofal diogelwch y maes.

Gwion James
gan Gwion James
Emlyn Jones

Emlyn Jones

Bydd diogelwch maes yr Eisteddfod eleni o dan ofal y cwmni lleol- Diogel, ac mae’r perchennog Emlyn Jones yn edrych mlan.

“Dwi wedi gwneud cannoedd o ddigwyddiadau dros y blynyddoedd, ond mae cael bod yn rhan o’r Eisteddfod Genedlaethol yma yn Nhregaron yn arbennig iawn iawn, fi methu aros!” meddai.

Wrth gwrs mae gan Emlyn gysylltiadau cryf a’r ardal. Magwyd yng Nghwm Cell, Pontrhydygroes- tir ffrwythlon, Eisteddfodol sydd wedi meithrin nid llai na phedwar enillydd Rhuban Glas o fewn un filltir sgwâr, sef Delyth Hopkins Evans, Rhian Lois, Carol Davies a Robin Lyn.

Ar ôl cyfnod yn Ysgol Uwchradd Tregaron, graddiodd Emlyn mewn addysg yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin cyn dod i weithio fel athro yn Ysgol Gynradd Tregaron gyda John Jones. Symudod i fod yn ddirprwy bennaeth Ysgol Llwyn Yr Eos, Penparcau cyn gorffen yn 2021 i weithio’n llawn amser i Diogel.

“On i’n joio dysgu plant a ges i nifer o flynyddoedd hapus yn Nhregaron a Llwyn yr Eos ond roedd y cwmni wedi datblygu gymaint erbyn y diwedd fel roedd rhaid gwneud penderfyniad, ” meddai.

Sefydlwyd cwmni Diogel yn 2007 ac mae’n cynnig gwasanaeth diogelwch, rheoli digwyddiadau, parcio a chriwio.

“O ni’n gweld gymaint o gwmnïoedd dierth yn gwneud y gwaith yn wael, a sylweddolais fod cyfle i gwmni lleol ddwyiaithog i gynnig gwasanaeth gwell, ” meddai. “Ges i’r job cyntaf gydag Owain Schiavone ym Mhafiliwn Bont ac erbyn heddi mae tua 50 a staff ar wahanol waith bob dydd, ac hyd at 100 ar benwythnosau prysur yr haf” ychwanegodd.

Mae cwmni diogel yn cynnig gwasanaeth diogelwch 24 awr ar faes yr Eisteddfod yn ogystal â gweithio’n agos gyda’r pwyllgor stiwardio, sy’n dal i apelio am stiwardiaid.

“Ni’n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cofrestru i stiwardio yn yr Eisteddfod, ond ma’ dal cyfle i rai sydd heb gofrestru eto, ” meddai Geoff Hughes, Cadeirydd Pwyllgor Stiwardio Eisteddfod Ceredigion.

Mae modd cofrestri trwy gysylltu gyda Geoff ar ghughes2012@btinternet.com