Meddyg oedd Carl Clowes, ac ef oedd sylfaenydd Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn a roddodd fywyd newydd i bentref yn Llŷn.
Eisteddfod Genedlaethol Tregaron fydd y gyntaf ers marwolaeth Carl Clowes yn 2021, ac mae digwyddiad arbennig wedi’i drefnu i anrhydeddu ei fywyd a’i waith.
Bydd Cofio Carl yn drafodaeth rhwng Dafydd Iwan, Alun Jones a Francesca Sciarrillo, Eidalwraig a enillodd wobr Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod yr Urdd 2019.
Cafodd Carl ei eni a’i fagu ym Manceinion, ac er bod ei fam yn Gymraes Gymraeg, ni ddysgodd Carl Gymraeg nes i’w rieni ddychwelyd i ogledd Cymru.
Dylanwadodd yr wyth mlynedd a dreuliodd fel meddyg ym mhentref Llanaelhaearn yn Llŷn yn fawr arno, ac fe’i hysbrydolwyd i ddod yn gadeirydd cyntaf erioed Antur Aelhaearn; y Gymdeithas Gydweithredol gyntaf yn y Deyrnas Unedig a sefydlwyd i achub yr ysgol leol.
Ond afraid dweud mai camp fwyaf nodedig Clowes oedd sefydlu Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn, a roddodd fywyd newydd i bentref Porth y Nant.
Lleolwyd hen bentref chwarelyddol Porth y Nant ger chwarel ithfaen Nant Gwrtheyrn, a agorwyd ym 1861. Ond yn dilyn cau’r chwarel yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gadawodd y trigolion y pentref, ac aeth yr adeiladau â’u pen iddynt. Yn 1948 caeodd ysgol Nant Gwrtheyrn ei drysau am y tro olaf, a’r hoelen olaf yn arch y pentref oedd ymadawiad y teulu olaf yn 1959.
Mae gan y pentref bennod liwgar ond byrhoedlog iawn yn ei hanes, pan gafodd ei feddiannu gan hipis y New Atlantis Commune yn ystod y 1970au. Roeddent yn byw yno heb unrhyw gyflenwad dŵr, trydan, na system garthffosiaeth, gan achosi difrod trwy losgi lloriau a drysau a gorchuddio’r waliau â graffiti.
Ond aed i’r ymdrech i adfywio’r pentref, ac erbyn hyn mae’n gartref i ganolfan dysgu Cymraeg, canolfan dreftadaeth, cyfleusterau cynadledda, llety 4 seren, a chaffi.
Amlygwyd gwaddol Carl Clowes pan fu farw y llynedd ar ôl cyfnod o salwch byr yn 77 mlwydd oed.
Pan fu farw, dywedodd Huw Jones, Cadeirydd presennol Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn fod Cymru wedi colli “un o gymwynaswyr mwyaf y Gymraeg.”
“Roedd Nant yn symbol o ddirywiad cenedl, cymuned, ac iaith. Ond yn y diwedd daeth yn symbol pwerus o adfywiad y pethau hyn. Mae gan holl ddysgwyr ac ymwelwyr Nant Gwrtheyrn le i ddiolch iddo. Mae ein colled fel Ymddiriedolaeth yn ddi fesur.”
Ond yn Eisteddfod Tregaron mae cyfle i ddathlu gwaddol Carl Clowes. Esboniodd Huw Jones:
“Wrth edrych ar Nant Gwrtheyrn yn ei ffurf bresennol, lwyddiannus, mae’n hawdd anghofio ei fod yn arfer bod yn adfail ar ddechrau’r 70au.
“Fe wnaeth gweledigaeth Carl Clowes o roi bywyd newydd iddo trwy ei droi yn ganolfan iaith ysbrydoli cenedl.
“Sbardunodd ymdrech a barodd flynyddoedd cyn troi’r freuddwyd yn realiti.
“Bydd y sesiwn yn gyfle i gofio cyfraniad anferthol Carl Clowes i’r her o hyrwyddo’r iaith a chynnal bywyd cefn gwlad.”
Mae’n briodol y bydd Cofio Carl yn cael ei gynnal yn y Pentre’ Dysgu Cymraeg ar Faes yr Eisteddfod yn Nhregaron am 12:00pm, dydd Llun Awst 1af.