Fel y gwyddoch chi mae’r Mudiad Meithrin yn dathlu 50oed eleni!
Fe gynhaliwyd Parêd o amgylch y maes ar fore dydd Sul a fu twr o deuluoedd ledled Ceredigion yn cymryd rhan.
Cafon ni ein harwain gan Dafydd Iwan, Siani Sionc a staff y mudiad.
Cafodd y Parêd ei arwain nôl i Lwyfan y maes lle cafwyd anerchiad gan Dafydd Iwan. Tynnodd sylw aylt bwysigrwydd trochi ein plant ni yn y Gymraeg yn ifanc. Uchafbwynt y dathlu heb os i’r plant oedd y Jambori gan Siani Sionc.
Bu Dewin a Doti yn ymuno yn yr hwyl hefyd.
Cafodd plant Cylch Meithrin Tregaron a Chylch Ti a Fi Cywion Caron, Llanddewi Brefi hwyl a sbri wrth ymuno yn y canu a dawnsio.
Dyma rai lluniau o’r teuluoedd yn mwynhau.
Os ydych chi’n dod i’r eisteddfod cofiwch alw yn stondin y mudiad mae llu o weithgareddau yno a digon o le i’r plant chwarae a’r rhieni gael hoe.