Cylch Cofio ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â Thregaron yn 2022

Diwrnod hanesyddol yn Nhregaron wrth i’r Cylch Cofio ddwyn ffrwyth.

gan Fflur Lawlor
8DEAAC69-DEAB-4A64-BE6A

Y criw!

960548C3-C336-41BE-9C44

Cyng Owain Pugh, Cyd-lynydd y prosiect

4624B7E3-A694-4A22-8CA3

Cylch Cofio

Daeth y syniad am leoli cylch cerrig gan Bwyllgor Apêl Tregaron i gael côf parhaol o gynnal yr Eisteddfod yn y dref, ac ar ol trafod, cynllunio a sawl her maent yn eu lle.

Ymgymerodd Cyngor Tref Tregaron â’r prosiect dan arweiniwyd y Cyng Owain Pugh ac mae’n braf gweld bod y cerrig yn eu lle ac yn edrych fel eu bod wedi bod yna erioed! Mae’r Cylch Cofio wedi ei leoli ger Brynheulog yn y dref.

Mae’r cerrig wedi cael eu rhoi gan deuluoedd lleol i fod yn rhan o’r prosiect hanesyddol hwn. Mae 14 carreg wedi’u rhoi.

Rhoddwyd y cerrig ar gyfer y Cylch Cofio gan y teuluoedd canlynol –

Davies, Llwynifan

Davies, Penffordd

Hughes, Alltddu

Hughes, Green Meadow

Jenkins, Lôn

Jones, Glanyrafon Uchaf

Jones, Penlanwen

Jones, Werna

Lewis, Penybont

Owens, Y Bryn

Pugh, Gwyngoed

Pugh, Prysg

Quan, Blaencwm

Samuel, Gwarcastell

Williams, Bryngwineu

Diolch i Cyng Owain Pugh, Cyngor Tref Tregaron, TTS Tregaron, Adeiladwyr J T Hockenhull & Jones a’r gymuned leol am eu cymorth gyda’r prosiect.