Clecs Caron – Martyn Bulman

Cyfweliad misol yn busnesa i fywyd person o Fro Caron. Y mis ’ma, Martyn Bulman.

Mared Rand Jones
gan Mared Rand Jones
Martyn Bulman

Enw:        Martyn Bulman

Cartref:   Parc Fictoria, Caerdydd (ar yr un stryd a 4 o Dregaroniaid eraill)

Teulu:     Lowri’r wraig a’r plant, Osian (11) ac Elliw (9)

Gwaith:   Ymgynghorydd Ariannol Annibynnol gyda chwmni Chris Leach & Associates yn Ngwaelod-y-Garth.

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Cyfeillgar, Cydwybodol, Cystadleuol

Unrhyw hoff atgof plentyndod.

Chwarae pêl-droed a rygbi yn y Parc gyda bois Maesyrawel ar bob cyfle posib. Roedd mynd i aros gyda Mamgu a Dadcu yn Pantglas wastad yn sbeshal.

Y peth pwysicaf a ddysgest yn blentyn.

Pwysigrwydd dweud plis a diolch

Pryd a ble wyt ti fwyaf hapus?

Yn gwylio’r plant a’u ffrindiau yn chwarae rygbi, pêl droed a chriced – ma’n dod a lot o atgofion da o’m mhlentyndod.

Pwy yw dy arwyr?

Pan yn tyfu lan, Ian Rush a Jonathan Davies

Sut mae’r Coronafeirws wedi effeithio dy fywyd di?

Roeddwm i a Lowri yn lwcus iawn ein bod wedi gallu gweithio o adref a rhannu dyletswyddau dysgu’r plant o adref.  Roedd peidio gallu mynd a’r plant i’w chwaraeon yn rhwystredig iawn.  

Y peth gorau am yr ardal hon?

Agosatrwydd a hiwmor y bobol a hyfrytwch naturiol yr ardal (chi’n ei gymryd yn ganiataol ond yn ei werthfawrogi’n fwy ar ôl gadael yr ardal)

Y peth gwaethaf am yr ardal hon?

Mae’r cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus yn drychinebus.  

Beth wyt ti’n gwneud yn dy amser hamdden?

Gwylio chwaraeon – Rygbi a Pêl droed yn y gaeaf a Chriced yn yr Haf.  Ma Lowri a fi yn hoffi gwylio Crime Dramas ond dyw hi ddim rhy hoff o wylio ‘Ffermio’ a ‘Cefn Gwlad’ fel fi.

Pa fath o berson sy’n mynd o dan dy groen?

Rhai sy’n bostian a siarad am eu hunain yn ddi-ddiwedd

Pe byddet yn ennill y loteri, sut fyddet yn gwario?

Ei fuddsoddi wrth gwrs!

Beth oedd yr eiliad balchaf i ti’n broffesiynol?

Cael fy ngwneud yn Gyfarwyddwr ar gwmni Chris Leach & Associates, sydd wedi bod yn darparu cyngor ariannol annibynnol ers bron i 40 mlynedd.

Ac yn bersonol?

Genedigaeth y plant – ma bod yn riant yn deimlad anhygoel a ma’r profiadau sy’n dod gyda hynny wedi cyfoethogi bywyd Lowri a fi.

Wyt ti’n difaru rhywbeth?

Na, does dim pwynt.

Pryd es di’n grac diwethaf?

Ma gwylio’r holl helbul am y partion yn rhif 10 Downing Street wedi fy ngwylltio.  Ond dyw e ddim yn fy synnu – ma system ‘nhw’ a ‘ni’ yng ngwledyddiaeth Prydain ers blynyddoedd maith a ma hyn yn profi hynny.   

Yr eiliad a newidiodd dy fywyd?

Cwrdd â merch o’r new Lowri yn Clwb Ifor Bach yn 2000 a un o’r pethe cyntaf wedodd hi oedd ‘Ma mam yn dod o Dregaron’. Bingo!  

Beth yw dy hoff air?

Piffgi

Beth yw dy ddiod arferol?

Te decaf, dwi heb yfed dropyn o alcohol ers 20 mlynedd.

Beth yw dy hoff bryd o fwyd?

Stecen a chips

Sut wyt ti’n ymlacio?

Gwylio chwaraeon – syrpreis syrpreis!! Dwi hefyd yn hoffi cerdded – fyddai’n amal yn cerdded rhai milltiroedd gyda’r nôs

Pa wefan wyt ti’n ymweld â hi fwyaf aml?

Twitter

Beth fyddet ti’n argymell i ni ei wylio/ei ddarllen?

‘How to Win Friends and Influence People’ gan Dale Carnegie.