Clecs Caron – Rhian Jones

Cyfweliad misol. Cyfle i fusnesa i fywyd person o Dregaron. Y mis ma, Rhian Jones.

Mared Rand Jones
gan Mared Rand Jones
Rhian Jones

Enw:                   Rhian Jones

Cartref:               Caerdydd

Teulu:                 Brian y gŵr, a 3 o fechgyn – Noa, Aron a Cian

Gwaith:               Gweithio i’r BBC fel Cydlynydd Cynllunio Playout

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Trefnus, Siaradus, hwyliog

 

Unrhyw hoff atgof plentyndod.  Cofio bod yr hafau wastad yn boeth ac yn sych – a dim son am law am 6 wythnos

Hoff raglen deledu pan oeddet yn blentyn.

Biker Grove – a dal yn ffan mawr o Ant a Dec

Yr eiliad o’r embaras mwyaf.

Cael shell suit pinc  ( digon o embaras edrych nôl  nawr) ond yr elastig yn mynd – a mam yn rhoi belt i fi wisgo i ddal y trowsus lan.

 

Y peth pwysicaf a ddysgest yn blentyn.

Dweud diolch.

 

Taset ti’n gallu mynd nôl mewn amser, beth fyddet ti’n dweud wrth dy hun yn 16 oed?

Gwisga unrhyw ddillad a hyder – a mae e’n ffasiwn.

Pryd a ble wyt ti fwyaf hapus?

Ar wyliau efo teulu ar lan y môr efo’r haul yn gwenu.

 

Sut mae’r Coronafeirws wedi effeithio dy fywyd di?

Wedi bod yn gweithio o adref , ond yn dychwelyd nôl i’r swyddfa yn araf sy’n beth braf. Roedd cael pawb adref 24/7 yn gyfnod gwahanol a braf ar y cyfan, ond dwi bendant ddim moin mynd nôl i orfod dysgu o adref!

 

Y peth gorau am yr ardal hon?

Nabod pawb, neu nabod rhywun sy’n nabod nhw, y golygfeydd, a bod mor agos i’r môr a’r mynydd.

 

Y peth gwaethaf am yr ardal hon?

Mae angen car neu drefnu lift i fynd i bob man.

 

Beth wyt ti’n gwneud yn dy amser hamdden?

Yoga a mynd ar feic Spin. Er i ni newydd gael ci bach – felly mae lot fawr o fy amser yn mynd nawr yn cerdded y ci!

 

Pa fath o berson sy’n mynd o dan dy groen?

Pobol sy’n cwyno, er ddim yn cynnig dim help i wella’r sefyllfa.

 

Pe byddet yn ennill y loteri, sut fyddet yn gwario?

Prynu tŷ gwyliau yn Ibiza.

 

Beth sy’n codi ofn arnat?

Llygod mawr, a meddwl gormod os ydy’r dydd yr un hyd nawr a pan oeddwn yn blentyn – amser yn hedfan

 

Pryd llefaist ti ddiwethaf?

Dechrau’r haf pan nes  grafu ein car newydd – y siom!

 

Beth oedd yr eiliad balchaf i ti’n broffesiynol?

Bod yn llais y peli (voice of the balls) Cardingo pan yn gweithio yn Radio Ceredigion – dal yn cofio “ dyna eich rhifau, pob lwc i chi”

 

Ac yn bersonol?

Bod yn fam

Wyt ti’n difaru rhywbeth?

Crafu’r car!

Beth yw dy gyfrinach i gadw’n heini?

Neud rhywbeth dwi’n mwynhau.

 

Beth yw’r cyngor gorau a roddwyt i ti?

Os na fedru di wneud da, paid a gwneud drwg. Hen ewythr doeth a charedig nath ddweud wrtha i a fy mrawd pan oeddem yn blant.

 

Yr eiliad a newidiodd dy fywyd?

Bod yn fam a chael y we ar y ffôn!

 

Beth yw dy hoff air?

Tocyn wrth gyfeirio at becyn bwyd.

Pwy yw’r person enwocaf ar dy ffôn symudol?

Cian o’r Super furry animals – neu i ni   – hyfforddwr Pêl droed Cian( ni).

 

Beth yw dy ddiod arferol?

Te, coffi du, Prosecco neu gin

 

Beth yw dy hoff bryd o fwyd?

Pitsa

 

Sut wyt ti’n ymlacio?

Gwylio murder mystery ysgafn ar y teledu – lle mae llofruddiaeth, datrys a wedyn pawb i’r dafarn i ddathlu – tebyg i Death in Paradise.

 

Pa wefan wyt ti’n ymweld â hi fwyaf aml?

Facebook

Eich gwyliau gorau?

Mynd ar easy cruse o amgylch Yr Eidal a Ffrainc  a hwylio i mewn  i Monte Carlo ar long fawr Oren.