Apêl Tregaron am Gerrig Mawr!

Ymgyrch Cyngor Tref Tregaron

Gwion James
gan Gwion James

Mae Cyngor Tref Tregaron yn apelio i ffermwyr Ceredigion am gerrig mawr er mwyn creu cofnod parhaol o ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol i’r dref eleni.

Owain Pugh, aelod o Gyngor y Dref a rheolwr Wynnstay Bethania sy’n arwain yr ymgyrch. “Mae’r Cyngor yn falch fod yr Eisteddfod wedi dewis Tregaron fel lleoliad, a hoffwn greu gofeb barhaol i ddathlu, ” meddai, “Mae’n gyfle i ffermwyr lleol fod yn rhan o’r achlysur. Mae angen tua dwsin o gerrig hirgul tua saith troedfedd o hyd a thua un droedfedd o led. ” ychwanegodd.

Un sydd wedi cynnig carreg eisoes yw John Jenkins, Lon, Tyngraig, Ystrad Meurig. “O ni’n falch o glywed am apêl Owain ac roedd hi’n bleser i allu gwneud cyfraniad tuag at yr Ŵyl. Pob dymuniad da i Dregaron a’r Eisteddfod eleni. ” meddai.

Os oes cerrig addas gyda chi cysylltwch ag Owain i drafod ar 07807 207723 owainpugh@hotmail.co.uk