Cyn bo hir bydd gofyn i gartrefi ar draws ardal Caron360 i gymryd rhan yng Nghyfrifiad 2021.
Arolwg a gaiff ei gynnal unwaith bob degawd sy’n rhoi’r amcangyfrif mwyaf cywir o’r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr yw’r cyfrifiad. Mae wedi cael ei gynnal bob degawd ers 1801, ac eithrio 1941.
Dyma fydd y tro cyntaf i’r cyfrifiad gael ei gynnal ar lein yn bennaf. Bydd cartrefi yn cael llythyr â chod mynediad unigryw a fydd yn eu galluogi i lenwi’r cyfrifiad ar eu cyfrifiaduron, eu ffonau neu eu llechi. Mi ddylai’r llythyr yma fod gyda chi yr wythnos ‘ma.
“Bydd cyfrifiad llwyddiannus yn sicrhau y gall pawb, o lywodraeth leol i elusennau, ddarparu gwasanaethau a chyllid ble mae eu hangen fwyaf,” meddai Iain Bell, y dirprwy ystadegydd gwladol yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
“Gallai hyn olygu pethau fel meddygfeydd, ysgolion a llwybrau trafnidiaeth newydd. Dyna pam mae mor bwysig bod pawb yn cymryd rhan a pham ein bod wedi’i gwneud hi’n haws i bobl gwblhau’r cyfrifiad ar lein ar unrhyw ddyfais, gan gynnig help a holiaduron papur i bobl os bydd angen.”
Bydd Diwrnod y Cyfrifiad ar 21 Mawrth, ond bydd cartrefi ledled y wlad yn cael llythyrau â chodau ar-lein a fydd yn eu galluogi i gymryd rhan o ddechrau mis Mawrth.
Bydd y cyfrifiad yn cynnwys cwestiynau am eich rhyw, eich oedran, eich gwaith, eich iechyd, eich addysg, maint eich cartref a’ch ethnigrwydd. Ac, am y tro cyntaf, bydd cwestiwn yn gofyn i bobl a ydynt wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, yn ogystal â chwestiynau gwirfoddol i’r rhai sy’n 16 oed a throsodd am gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd.
Bydd y canlyniadau ar gael o fewn 12 mis, ond caiff cofnodion personol eu cadw’n ddiogel am 100 mlynedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch gyda Huw Davies, Rheolwr Ymgysylltu a’r Cyfrifiad Ardal Ceredigion a Phowys. Rhif ffon 07452 945860. Os ydych yn cael trafferth i ateb cwestiynnau ar y ffurflen yna bydd Huw yn cynnal sesiwn “llenwi’r ffurflen” dros y ffon dydd Llun a dydd Mawrth nesaf. Croeso i chi ei ffonio.