Clecs Caron – Dylan Garner

Cyfweliad misol newydd! Busnesa i fywyd person o Dregaron. Y mis ma, Dylan Garner.

Mared Rand Jones
gan Mared Rand Jones

Enw:    Dylan Garner

Cartref: Tregaron

 

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Anturus, amyneddgar a hapus.

 

Unrhyw hoff atgof plentyndod.

Chwarae yn yr afon efo fy 2 frawd lawr heol Blaenau Caron.

 

Y peth pwysicaf a ddysgest yn blentyn.

‘Practice doesn’t make perfect, practice make permanent’.

 

Taset ti’n gallu mynd nôl mewn amser, beth fyddet ti’n dweud wrth dy hun yn 16 oed?

Pryna bit coin.

 

Pryd a ble wyt ti fwyaf hapus?

Dringo yn yr Alps neu Yr Eryri gyda fy nghariad Tu Anh.

 

Pwy yw dy arwyr?

Dros y blynyddoedd dwi wedi cael sawl arwr, maent yn newid wrth imi fynd yn hŷn, ond ar hyn o bryd fy arwr yw Anton Krupicka. (ultra runner, cyclist a dringwr)

 

Beth yw dy arbenigedd?

Dyddiau yma, plastro.

 

Sut mae’r Coronafeirws wedi effeithio dy fywyd di?

Mae’r pandemig wedi newid y ffordd rwy’n byw tipyn bach. Llynedd roeddwn yn byw a gweithio yn Llundain ac yn hedfan i Hamburg bron pob pythefnos i weld fy nghariad.  Ar hyn o bryd rwy’n byw yn Nhregaron ond yn mwynhau gweithio gyda Dad ac wrth fy modd yn rhedeg ar fynyddoedd y Cambrian.  Felly dwi methu cwyno gormod.

 

Y peth gorau am yr ardal hon?

Teulu, awyr iach, pobl lleol, Mynyddoed Cambrian.

 

Y peth gwaethaf am yr ardal hon?

Does dim llawer o bethau gwael, bach yn bell o unman falle. Yn Llundain roedd hi mor hawdd i deithio i bob man.

 

Beth wyt ti’n gwneud yn dy amser hamdden?

Rhedeg ar Gors Caron, mynd ar y beic mynydd a darllen.

 

Pe byddet yn ennill y loteri, sut fyddet yn gwario?

Dibynnu faint, helpu teulu a theithio mwy.

 

Beth sy’n codi ofn arnat?

Turbulence ar yr awyren.

 

Beth oedd yr eiliad balchaf i ti’n broffesiynol?

Yn ystod gyrfa modelu, gweithio gyda ffotograffydd o’r enw Peter Linberg yn Milan i gwmni Gillett. Hefyd gweld poster enfawr o fy hunan yn H&M.

 

Ac yn bersonol?

Rhedeg y Culin Ridge mewn 24 awr yn yr Alban a’r ‘15 peaks’ yr Wyddfa yn yr un wythnos.

 

Beth yw dy gyfrinach i gadw’n heini?

O leiaf 4 wy pob bore, rhedeg, mynd ar y beic a cherdded yn y mynyddoedd.

 

Beth yw dy gyfrinach i gadw’n bert / i gadw’n gryf?

Oleia 4 wy pob bore, ‘moistureiso’ yn y nos, rhedeg, mynd ar y beic a cherdded yn y mynyddoedd.

 

Beth yw’r cyngor gorau a roddwyt i ti?

‘’You can easily judge the character of a man by how he treats those who can do nothing for him’’

 

Yr eiliad a newidiodd dy fywyd?

Rwy’n temilo fel bod sawl digwyddiad dros y blynyddoedd wedi newid fy mywyd, falle pen es i Efrog Newydd i chwarae rygbi, neu pan es i i Fecsico, doedd dim byd yr un peth ar ôl y trip yna.

 

Pwy yw’r person enwocaf ar dy ffôn symudol?

Yr actor Luke Evans, er doedd e ddim mor enwog pan wnes i gwrdd ag ef.

 

Beth yw dy ddiod arferol?

Dŵr neu goffi.

 

Beth yw dy hoff bryd o fwyd?

Stecen ac Wyau.

 

Pa wefan wyt ti’n ymweld â hi fwyaf aml?

Ordinance Survey maps neu Fantasy Football.

 

Eich gwyliau gorau?

Fe wnes i sôn am Fecsico yn gynharach. Es i ar daith ar ben fy hun am ryw 6 wythnos pymtheg mlynedd yn ôl a’r trip yn anhygoel. Rwyf hefyd yn hoff iawn o’r Alps, Chamonix yn Ffrainc, Dolomites yn yr Eidal. Ond y lle cyntaf byddaf yn mynd ar wyliau pan fydd hawl fydd i Leonidio yng Ngwlad Groeg, i ddringo ger y môr, mae’n lle anhygoel.

 

Beth fyddet ti’n argymell i ni ei wylio/ei ddarllen?

Dwi ddim yn gwylio llawer o deledu ond fe wnes i fwynhau’r rhaglen ‘The Crown’ ar Netflix.  Hefyd rwy’n mwynhau darllen llyfrau Ken Folett, mae’r llyfr ‘Pillars of the Earth’ yn wych.  Dwi newydd ddarllen 1984 gan George Orwel, sydd yn weddol addas yn ystod y cyfnod yma.