Clecs Caron – Denis Pugh

Cyfweliad misol yn busnesa i fywyd person o Fro Caron.  Y mis ’ma, Denis Pugh

Mared Rand Jones
gan Mared Rand Jones
Denis Pugh

Enw:   Denis Elfed Pugh

Cartref:   Ystum Taf, Caerdydd,

Teulu: 

Gwraig – Michelle Pugh

Meibion – Rhodri (8 Oed) a Gethin (1 Oed)

Rhieni – Morlais ac Ann Pugh (Fferm Prysg, Llanddewi Brefi)

Gwaith:  Pennaeth Cynorthwyol ac Athro Mathemateg yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf.

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Hapus, Trefnus, Caredig.

Unrhyw hoff atgof plentyndod.

Chwarae Pêl-droed pob bore sadwrn i fyny yn Aberystwyth a chal sglodion ar y ffordd adref.

Hoff raglen deledu pan oeddet yn blentyn.

O ni yn mwynhau gwylio’r gyfres A Team.

Y peth pwysicaf a ddysgest yn blentyn.

Gwaith a gorffwys bellhach wedi mynd yn un.

Pryd a ble wyt ti fwyaf hapus?

Yn hapus pan efo Teulu, does dim ots am y lleoliad.

Sut mae’r Coronafeirws wedi effeithio dy fywyd di?

Mae wedi golygu nid ydynt wedi gallu ymweld â theulu a ffrindiau am gyfnodau hir.

Y peth gorau am yr ardal hon?

Gwyrdd – Caeau, Mynyddoedd, Coedwig.

Y peth gwaethaf am yr ardal hon?

Teithio i bob man.  Yn Gaerdydd mae popeth ar stepen drws.

Beth wyt ti’n gwneud yn dy amser hamdden?

Y plant yn cadw fi yn brysur gyda gweithgareddau. Hyfforddi tîm Pêl-droed a Rygbi U9’s (Rhodri).

Pa fath o berson sy’n mynd o dan dy groen?

Person ddau wynebog.

Pe byddet yn ennill y loteri, sut fyddet yn gwario?

Gwyliau moethus i’r teulu.

Beth sy’n codi ofn arnat?

Llygod Mawr

Pryd es ti’n grac ddiwethaf?

Digwyddiad yn yr ysgol lle roedd disgybl mewn gwisg anghywir.  Fe wnes i ddanfon lawr i’r dderbynfa, i’r swyddfa cael ffonio ei rhieni.  Aeth y disgybl lawr a rhoi enw disgybl gwahanol. Ffoniodd y swyddfa y rhiant, y rhiant yn dweud mae gyda chi y disgybl anghywir gan oedd ei mab hi adref yn huanynysu.  O ni yn grac! Dal i fyny gyda’r disgybl a gwneud iddo ffonio ei fam ac esbonio beth oedd wedi ei wneud o flaen fi.

Beth oedd yr eiliad balchaf i ti’n broffesiynol?

Cael fy mhenodi yn Bennaeth Cynorthwyol yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf.

Ac yn bersonol?

Chwarae Rygbi’r Gynghrair Tîm Myfyrwyr i Gymru a Phrydain.

Wyt ti’n difaru rhywbeth?

Na, popeth yn digwydd am reswm!

Beth yw dy gyfrinach i gadw’n heini?

Yfed digon o ddŵr.

Beth yw’r cyngor gorau a roddwyt i ti?

Trin pobl, fel ti yn disgwyl cael dy drin dy hun.

Yr eiliad a newidiodd dy fywyd?

Pan gafodd y plant ei eni.

Beth yw dy ddiod arferol?

Joio paned o de, ond ar y penwythnos Peint o Lager.

Beth yw dy hoff bryd o fwyd?

Cinio dydd sul – Cig Oen a’r trimins i gyd!

Sut wyt ti’n ymlacio?

Cerdded y ci.  Gwylio Netflix.

Pa wefan wyt ti’n ymweld â hi fwyaf aml?

Facebook – Gweld beth sydd yn digwydd yn y byd.  Cadw mewn cysylltiad gyda ffrindiau sydd yn byw  bell i ffwrdd.

Eich gwyliau gorau?

Yn 2012 aethom i Seland Newydd a teithio mewn Campervan o gwmpas ynys y de.  Gobeithio gwneud hyn yn y dyfodol gyda Rhodri a Gethin.

Beth fyddet ti’n argymell i ni ei wylio/ei ddarllen?

Cyfres ar Netflix / Prime – Prison Break.

Mae Denis wedi enwebu Rhian Jones (Llanio) ar gyfer y mis nesaf.