Clecs Caron – Eurfyl

Cyfweliad misol yn busnesa i fywyd person o Fro Caron. Y mis ’ma, Eurfyl Davies

Mared Rand Jones
gan Mared Rand Jones
Teulu Davies

Enw: Eurfyl

Cartref: Llantrisant (ail hanner), Llanddewi Brefi (hanner cyntaf)!

Teulu: Yn nhŷ’r Davises. Mae ’na hefyd un ferch 9 oed (Briallen), un bachgen 7 oed (Gwion), ac un wraig (Jenny)!

Gwaith: Uwch ddarlithydd yn yr adran electroneg ym Mhrifysgol De Cymru  

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Chwilfrydig, cryf, hamddenol.

Unrhyw hoff atgof plentyndod.

Cofion melys yn chwarae snwcer a phŵl gyda ffrindiau yn neuadd billiards y pentref, o dan ofal Len Verdin (gynt) y faciwî o Lerpwl. Roedd e’n aml yn llanw’r lle gyda mwg! Passive-smoking ddim yn gymaint o beth nôl bryd hynny.

Hoff raglen deledu pan oeddet yn blentyn.

Match-of-The-Day diwedd ysgol gynradd, a nawr dwi’n cael y pleser o wylio’r Euros gyda’m mhlant, er i Gymru fach fethu yn erbyn Denmarc. Gwell peidio ehangu ar y gêm!

Yr eiliad o’r embaras mwyaf.

Gwisgo teits fel rhan o ffilmio ‘We Are Seven’ yn enghraifft dwi’n fodlon rhannu. Rwy’n cofio cael cnoc ddamweiniol hefyd ar fy mhen gan drombôn wrth i Huw Ceredig (yr actor) chwarae’r offeryn yn ystod y ffilmio ar sgwâr Llanddewi!

Y peth pwysicaf a ddysgest yn blentyn.

Peidio â chael fy nhemptio i wneud drygioni. Gwnes lwyddo ar y cyfan, er rwy’n cofio ambell dro pan na lwyddes! Rwy’n cofio cael fy mwydo lawer tro drwy dwll ffenest neuadd y pentref er mwyn i fi agor y drws i’r gweddill ohonom ni gael chwarae y tu fewn a chael un neu ddwy gêm fach o pŵl. Roedden ni’n codi’r ford i fyny a gollwng y peli allan i gyd heb 20c!

Taset ti’n gallu mynd nôl mewn amser, beth fyddet ti’n dweud wrth dy hun yn 16 oed?

Mae bywyd yn rhy fyr i fod yn swil.

Beth oedd y peth ofnadwy wnes ti i gael row gan rywun?

Fe wnes i ddwdlan, trwy lunio cyrn ar pen bardd yn ystod gwers Gymraeg yn Ysgol Uwchradd Tregaron. Gwnaeth ymateb Mrs Gillian Jones yn siŵr na anghofiaf i fyth bwysigrwydd Gerallt Lloyd Owen yn y byd barddoni!

Pwy yw dy arwyr?

Mae ’na sawl un, ond bydd mwyafrif yn nabod Maradona rwy’n siŵr. Enghraifft o rywun sy’n dal i ysbrydoli plant hyd yn oed ar ôl iddo farw, diolch byth am Youtube!

Beth yw dy arbenigedd?

Darlithio yn y byd electroneg rwyf i, yn benaf. Rwy’n cael blâs ar weld y myfyrwyr yn llwyddo trwy gyfrannu mewn diwydiant sydd yn angenrheidiol i’r byd modern, er engraifft: 5G, Internet-of-Things, Ynni Adnewyddadwy a.y.b.

Sut mae’r Coronafeirws wedi effeithio dy fywyd di?

Galla i ddim esgus bod e i’r gwaethaf. Rydyn ni wedi cael amser i ddarganfod cymaint o lefydd diddorol i gerdded ar stepen drws gyda’r plant. Er enghraifft mae ’na fryngaer yn Rhiwsaeson o Oes yr Haearn, a Tarren Deusant ar bwys, sef ryw gysegr Paganaidd yn ôl pob sôn. Felly digon i weld heb angen gyrru. Ry’ ni hefyd yn lwcus o allu gweithio o adref, gan arbed costau petrol! Mae darlithio ar-lein yn golygu bod y myfyrwyr yn gallu cadw recordiad yn ogystal â gallu gwrando heb angen dod mewn i’r dosbarth. Bydd y normal newydd, pan ddaw, siŵr o fod yn gymysgedd o’r hyn ag yr oedd cyn, ac yn ystod y cyfyngiad.

Y peth gorau / gwaethaf am yr ardal hon?

Wel mae rhai yn disgrifio Llantrisant fel “hole with a Mint!!” ond gall y disgrifiad yma ddim fod yn bellach o’r gwir yn fy marn i. Y peth gwaethaf falle yw trio gyrru lawr o dop y bryn yn ystod eira!

Beth wyt ti’n gwneud yn dy amser hamdden?

Pan oeddwn i’n blentyn, roeddwn yn dilyn fy rhieni i le bynnag oeddent yn mynd. Nawr, dwi’n riant, fi sy’n dilyn y plant o un peth i’r llall. Felly does dim llawer o amser hamdden ma’ arna i ofn! Dwi’n cael hwyl ar weithio ar y goeden deulu, pan ddaw cyfle, bob hyn a hyn. Hefyd dwi wedi cymryd prawf DNA sydd yn codi cysylltiadau diddorol ar Ancestry.co.uk. Sdim ots pa mor bell af nôl, mae’r cysylltiad yn aros yn Sir Ceredigion a Sir Gaerfyrddin felly rwy’n eithaf sicr fy mod i’n perthyn i sawl un ohonoch chi sy’n darllen y Clecs! Rwyf hefyd yn chwarae bach o bêl-droed gyda ffrindiau ac yn rhoi’r crys Black Army ymlaen os yw Llantrisant yn fyr o rifau rygbi ambell waith!

Pe byddet yn ennill y loteri, sut fyddet yn gwario’r arian?

Mae’r plant yn mwynhau ymweld â Llanddewi yn enwedig ar ddiwrnod y Sioe ac i hel Calennig. Mae’n gyfle iddyn nhw weld ffrindiau a theulu tad-cu a mam-gu! Efallai, tŷ yn yr ardal i gael ymweld yn gyson fydd y loteri yn ei alluogi.

Beth sy’n codi ofn arnat?

Dŵr dwfn. Ni ddysgais nofio pan oeddwn i’n blentyn yn ysgol gynradd o achos ulcer ar un llygad. Ddes i’n dda iawn ar chwarae Pac-Man ar y cyfrifiadur tra i eraill cael gwersi nofio.

Pryd es ti’n grac ddiwethaf?

Wrth wylio Cymru yn chwarae heb hyder yn erbyn y Swistir. Pasio nhw nôl gymaint, roeddwn i’n meddwl mai rygbi oedd ar y teledu!

Beth oedd yr eiliad balchaf i ti’n broffesiynol?

Derbyn doethuriaeth.

Wyt ti’n difaru rhywbeth?

Dim dysgu chwarae offeryn pan oeddwn i’n blentyn. Mae’r plant yn dilyn ar ôl eu mam-gu yn chwarae’r piano ac yn mwynhau. Mae’r ddau o honnont yn gallu darllen cerddoriaeth, yn 7 oed. Mae’n sialens dda i’r plant, sy’ hefyd yn eu gwobrwyo gyda sgil pleserus. Trueni nad yw’r cwricwlwm ysgol yn rhoi’r cyfle i bob plentyn cael shot arni, i gyrraedd rhyw safon erbyn gadael ysgol gynradd.

Beth yw dy gyfrinach i gadw’n heini?

Cadw’n blentynnaidd. Mae plant yn rhedeg i le maen nhw am fynd, felly rwyf innau hefyd yn rhedeg i’r siop leol ambell waith neu wrth chwarae gyda’r plant! Ni’n rhedeg 3.5 milltir fel teulu unwaith yr wythnos ac mae’r plant 7 a 9 oed o flaen mami yn barod, ond tu ol i dadi ar hyn o bryd!

Beth yw dy gyfrinach i gadw’n bert / i gadw’n gryf?

Fi’n cadw’n gryf trwy wneud squats gyda’r plant ar fy nghefn, ag yn cadw’n bert trwy osgoi’r mirror!

Beth yw’r cyngor gorau a roddwyt i ti?

Hmmm… dim yn un i godi calon unrhyw un, ond mae e’n un sy’n aros yn y meddwl. Cydweithiwr o Rydaman yn cynghori fi pan oeddwn yn darlithio yn Abertawe blynyddoedd yn ol – “Cofia mai dim ond dy wraig a dy blant bydd yn llefen pan fyddi wedi mynd”. Neges wrth gwrs, taw’r teulu ddyle ddod yn gyntaf.

Yr eiliad a newidiodd dy fywyd?

Colli fy ffrind gorau – Mam. Dal i misho’r chats dros y ffôn hwyr y nos.

Beth yw dy hoff air?

Bitcoin! Gair sy’ efallai yn haeddu’ch sylw am lawer o resymau.

Pwy yw’r person enwocaf ar dy ffôn symudol?

Russell Gomer, siwr o fod. Efallai eich bod yn nabod fel Yanto yn y gyfres ‘Stella’. Cymeriad diddorol bant o’r sgrin hefyd!

Beth yw dy ddiod arferol?

Mae hyn yn atgoffa fi o Ronaldo yn ‘canslo’ Coca Cola yn ystod yr Euros! Minnau hefyd yn osgoi’r stwff, ag yn yfed dŵr fel arfer.

Beth yw dy hoff bryd o fwyd?

Cyrri cyw iar y wraig

Sut wyt ti’n ymlacio?

Cerdded i ben y bryn yn Llantrisant, at Billy Gwynt. Golygfa ffein. Pobl leol dal i ddadlau beth oedd pwrpas Billy Gwynt.

Eich gwyliau gorau?

Fy ngwyliau cyntaf – Corfu, pan oeddwn i tua ugain oed. Ni fues i’n bellach na Bryste cyn hynny, ac roedd hynny ond i gael llawdriniaeth i achub fy llygaid chwith. Roedd mam a dad yn gysurus iawn rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth, felly roedd cael blas o fwyd, tywydd, a diwylliant gwahanol yn agoriad llygaid i’r Cymro bach diniwed yma!

 Mae Eurfyl wei enwebu Denis Pugh ar gyfer mis nesaf.