Clecs Caron – Fflur Lawlor

Cyfweliad misol yn busnesa i fywyd person o Fro Caron.  Y mis ’ma, Fflur Lawlor.

Mared Rand Jones
gan Mared Rand Jones

Enw: Fflur Lawlor

Cartref: Tregaron

Teulu: Briod i Matthew ac yn fam i Tomos Ifan (6 oed) a Magi Fflur (4 oed)

Gwaith: Swyddog Grantiau Cymunedol ac Yswiriant, Cyngor Sir Ceredigion

Disgrifia dy hun mewn tri gair.y

Cfeillgar, trefnus, amyneddgar

Unrhyw hoff atgof plentyndod

Lot o atogifon da yn tyfu lan, ond os byddai rhaid dewis, credu taw cael mynd i lan i’r ffarm at Dadcu John yn Penybont ar benwythnosau i’w helpu.

Hoff raglen deledu pan oeddet yn blentyn

Bugs Bunny a Superted.

Yr eiliad o’r embaras mwyaf.

Eistedd yn y sedd fawr yn Capel Bwlchgwynt diwrnod ein priodas a Ffion, y forwyn briodas yn trial cael fy sylw gan oedd y garter wedi cwympo lawr fy nghoes ac yn eistedd ar fy nhroed!

Y peth pwysicaf a ddysgest yn blentyn

Gwneud fy nghorau, gweud plis a diolch a pharchu eraill.

Pryd a ble wyt ti fwyaf hapus?

Allan yn yr awyr agored gyda Matthew a’r plant yn crwydo yr ardal ar droed – ni’n byw mewn ardal hynod o brydferth a dim bob amser yn ei werthfawrogi.

Sut mae’r Coronafeirws wedi effeithio dy fywyd di?

I fod yn onest, fi wedi mwynhau cael amser adref a dim gorfod rhedeg a rasio o fan hyn i fan co. Mae treulio’r amser hyn gyda’r plant yn rhywbeth na chawn eto felly wedi gwerthfawrogi hyn yn fawr. Rwyf wedi bod yn gweithio o adref ers Mawrth 2020 tan nawr. Yr her fwya oedd gorfod dysgu y plant o adref, ynghŷd â gweithio llawn amser – oedd hyn yn anodd ar adegau. Hefyd, nid ydyn wedi medru gweld teulu Matthew gymaint ag arfer gan nad ydynt yn byw yn lleol, mae hyn wedi bod yn anodd yn enwedig gyda’r plant methu gweld Mamgu.

Y peth gorau am yr ardal hon?

Tirwedd – mae’n ardal brydferth iawn. Digon o lwybrau cerdded/rhedeg a golygfeydd anhygol.

Beth wyt ti’n gwneud yn dy amser hamdden?

Mwynhau chwaraeon, yn enwedig pêl-droed. Chwarae hoci i Glwb Hoci Caron. Fi hefyd yn hoff iawn o redeg ac wedi dechrau cerdded tipyn dros y flwyddyn diwethaf.

Pa fath o berson sy’n mynd o dan dy groen?

Bwli!

Pe byddet yn ennill y loteri, sut fyddet yn gwario?

Prynu Transporter kombi top of the range ag agor café / siop beics yn Nhregaron.

Beth sy’n codi ofn arnat?

Llygod mawr!

Pryd llefaist ti ddiwethaf?

Sain cofio!

Wyt ti’n difaru rhywbeth?

Peidio gwrando ar Mam pan yn iau i gadw ymarfer a chwarae y piano, ei geiriau oedd ‘Difaru neud di’ – a gwir yw hynny.

Yr eiliad a newidiodd dy fywyd?

Genedigaeth Ifan – popeth wedi newid ers dod yn fam.

Pwy yw’r person enwocaf ar dy ffôn symudol?

Huw Stephens.

Beth yw dy ddiod arferol?

Dŵr.

Beth yw dy hoff bryd o fwyd?

Ham, chips a peas.

Eich gwyliau gorau?

Ar ôl gorffen yn y Coleg, ges gyfle i fynd i California yn America gyda ffrind i aros gyda theulu am 3 mis. Cefais brofiad o fywyd teuluol Americanaidd a’r diwylliant, teithio o amgylch California, ymweld â’r Grand Canyon, Golden Gate Bridge, LA, San Diego, Disney Land, Alcatraz a lot mwy.

Beth fyddet ti’n argymell i ni ei wylio/ei ddarllen?

Fi ddim yn un dda iawn am ddarllen ond mae’n rhywbeth sydd eisiau fi wneud mwy ohono. Rwy’n hoff o wylio teledu yn enwedig rhaglennu drama Americanaidd ond ar hyn o bryd fi yn gwylio ‘The Crown’ ar Netflix.

Mae Fflur wedi enwelu Eurfyl Davies ar gyfer mis nesaf.