Ceredigion yn lansio Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Bregusrwydd gyntaf y DU

Er mwyn codi ymwybyddiaeth o droseddau sy’n targedu’r bobl fwyaf agored i niwed yn yr ardal.

gan Rhian Floyd

Yr wythnos hon (15 – 19 Mawrth), mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Ceredigion yn lansio’r Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Bregusrwydd gyntaf erioed yn y DU – er mwyn codi ymwybyddiaeth o droseddau sy’n targedu’r bobl fwyaf agored i niwed yn yr ardal ac i hysbysu’r cyhoedd am yr hyn y gallan nhw ei wneud i helpu.

Er bod cyfraddau troseddu yng Ngheredigion ymhlith yr isaf yn y DU, mae pobl sy’n agored i niwed yn dal i fod mewn perygl o gael eu targedu drwy droseddau fel sgamiau a thwyll, cam-drin domestig, cogio a Llinellau Sirol — fel y dangosir mewn ffilm emosiynol newydd a grëwyd i fynd i’r afael â’r mater.

Wedi’i ariannu gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, mae’r Bartneriaeth wedi darparu hyfforddiant arbenigol i randdeiliaid yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector, grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr — er mwyn eu helpu i adnabod arwyddion troseddau bregusrwydd a dysgu sut i gefnogi’r rhai sydd fwyaf mewn perygl.

Yn y cyfamser, mae bron i 50,000 o aelwydydd ledled Ceredigion wedi derbyn gwybodaeth am sut y gallan nhw hefyd gefnogi’r fenter — drwy ddeall arwyddion troseddau bregus a phwy allai fod mewn mwy o berygl, a beth i’w wneud os ydyn nhw’n amau bod rhywun mewn perygl.

Yn ôl Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys: “Mae unrhyw un mewn perygl o fod yn agored i niwed a dioddef trosedd, ar unrhyw adeg — ond gallan nhw fod yn arbennig o agored i niwed oherwydd ffactorau personol, megis problemau iechyd meddwl neu anabledd, a ffactorau sefyllfaol megis anawsterau ariannol neu gamddefnyddio sylweddau.

“Mae aelodau o’r cyhoedd yn aml yn teimlo y gallen nhw fod yn ‘drafferth’ i’r Heddlu – yn enwedig yn ystod pandemig y coronafeirws – fodd bynnag, ni allai hyn fod ymhellach o’r gwir. Os nad yw rhywbeth yn ymddangos yn iawn, fel arfer nid yw, ac mae angen help y cyhoedd arnom i ddod â’r arsylwadau hyn i’n sylw. Mae’r pandemig wedi effeithio’n sylweddol ar amgylchiadau pobl, sy’n golygu y gallai mwy o bobl fod mewn perygl o ddioddef trosedd nag erioed o’r blaen. Ein gwaith ni yw helpu i gadw Ceredigion yn ddiogel, ac mae cefnogaeth pobl leol yn hanfodol i’n helpu i wneud hynny. Gellir rhoi gwybod am bryderon yn ddienw drwy Crimestoppers.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Rydyn ni’n hynod ffodus bod lefelau troseddu yma yng Ngheredigion ymhlith yr isaf yn y DU, ond nid oes lle i fod yn hunanfodlon, a dyna pam rydyn ni’n lansio’r Wythnos Ymwybyddiaeth hynod bwysig hon.

“Mae’r Sir wedi cyd-dynnu fwy nag erioed o’r blaen yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a gobeithiwn y bydd yr ymgyrch hon, unwaith eto, yn uno pobl Ceredigion i ddod yn llygaid ac yn glustiau i’r gymuned.”

Os ydych chi’n credu bod rhywun mewn perygl uniongyrchol a bod angen cymorth arnoch ar unwaith, ffoniwch yr Heddlu ar 999.

Am ragor o wybodaeth am Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Bregusrwydd Ceredigion ac i gael gwybod sut y gallwch helpu, ewch i: http://www.ceredigion.gov.uk/VC.