Beicwyr lleol yn cyfrannu dros £5,000 i Tir Dewi

Clwb Seiclo Caron

gan Arwel Jones
clwb-seiclo

o’r chwith Andrew Davies, Gwion James a Wyn Thomas o elusen Tir Dewi

Yn dilyn her seiclo noddedig gan Glwb Seiclo Caron ym mis Awst eleni, cyflwynwyd siec o £5,128.07 i elusen cymorth gwledig Tir Dewi yng nghyfarfod blynyddol y Clwb yn ddiweddar. Roedd yr her wedi ei threfnu er cof am aelod poblogaidd o’r Clwb- Rhodri Davies, Pontargamddwr.

Er gwaetha’r tywydd adeth 140 o seiclwyr lleol ynghyd ym mart Tregaron i gwblhau’r her, rhai yn seiclo 150 o filltiroedd mewn un dydd. Ymhlith y seiclwyr oedd yr Hybarch Archddeacon Eileen Davies o elusen Tir Dewi.

‘Rydym yn ddiolchgar iawn o’r gefnogaeth, ac yn falch o allu gwneud cyfraniad teilwng tuag at Tir Dewi’, meddai Gwion James o Glwb Seiclo Caron ‘Roeddwn yn falch o’r cyfle i allu talu teyrnged i Rhodri, ac roedd yr ymateb ar y dydd yn adlewyrchiad o’r parch ac ewyllys da tuag at Rhodri, a’r teuluoedd yn Pontargamddwr ac Alltddu’

Yng nghyfarfod blynyddol Clwb Seiclo Caron bu Pencampwr Seiclo Cymru Andrew Davies o Aberystwyth yn rhannu ei uchafbwyntie’ am flwyddyn lwyddiannus ar y beic, a hefyd am ei brofiad o ddelio gydag  iselder. Bydd adroddiad llawn o’r cyfarfod ac enillwyr y gwobrau blynyddol  yn rhifyn nesa o’r Barcud….