Digwyddiad arbennig i godi arian ar gyfer Apêl y Pererin.
Taith gerdded 3.5 milltir ar hyd ffyrdd coedwig a thrwy ffermdir a choedwigoedd hynafol i gyrraedd olion Abaty Sistersaidd Ystrad Fflur, sy’n hanu o’r 12fed ganrif, gyda thaith dywys o’r arddangosfa a the Cymreig i ddilyn.
Arweinir y bererindod hon gan Guided Pilgrimage, cwmni dielw sy’n darparu profiadau pererindod Celtaidd yn y Gorllewin.
Wrth i ni gerdded drwy’r ardal hanesyddol hon, byddwn yn ail-fyw bywyd y Mynachod a drodd Ystrad Fflur yn gymuned ffyniannus 900 mlynedd yn ôl. Mae’r straeon am y Mynachod hyn yn rhan annatod o’r dirwedd ac mae pwysigrwydd Ystrad Fflur fel man geni cenedl gydlynol ‘Cymru’ yn gwneud hwn yn lle mor bwysig i dreftadaeth Cymru.
Byddwn hefyd yn mwynhau taith dywys arbennig o gwmpas arddangosfa newydd Mynachlog Fawr, sy’n cynnwys casgliad o eitemau a gafwyd yn y ffermdy a’r tai allan sy’n rhoi cipolwg arbennig i ni o fywydau’r rhai a oedd yn arfer byw yma.
Ac yn olaf, byddwn yn mwynhau te Cymreig blasus i ddod â diwrnod bythgofiadwy i ben mewn steil!
Bydd pob rhodd yn mynd yn syth i Apêl Cyllido Torfol Pilgrim.