Anfamol

Barn un person a aeth i weld Drama newydd Rhiannon Boyle.

gan Meleri Morgan

Wedi aros hirfaith i fynychu’r theatr, dwi’n falch taw Anfamol oedd y profiad cyntaf imi.
Monolog gan Rhiannon Boyle a oedd yn serennu Bethan Ellis Owen oedd Anfamol, drama ddoniol iawn ac yn ffraeth ar adegau.
Stori Ani yw hi, cyfreithwraig sydd yn ei 40au ac eisiau plant ac yn disgrifio i ni fel cynulleidfa’r daith o fynd i ‘sperm bank’ er mwyn beichiogi.
Teimlais o’r 10 munud cyntaf ein bod ni ar y daith gydag Ani, a hynny oherwydd actio didwyll Bethan Ellis Owen. Hoffais yn bersonol y defnydd o sain a cherddoriaeth yn y darn yma o theatr wrth iddi sleidio o un dyn i’r llall gan geisio hoelio’r person cywir, a oedd yn teimlo fel app ’dating’.
Roeddwn ni am Ani i lwyddo, er efallai nad oedd hi yn gymeriad hoffus ar bob adeg.

Yn sicr roedd y disgrifiadau am iselder wedi geni yn rhai gonest ac anodd i wylio ar adegau; wrth i ni brofi Ani yn dirywio yn feddyliol, roedd y ddrama yn adeiladu mewn tensiwn yn yn darn yma.

Tarodd Covid fywyd Ani ac i mi, gafwyd golygfeydd trawiadol iawn ohoni yn disgrifio unigedd yr holl brofiad o fod ar Furlough a methu gadael i unman.
Set minimalistaidd â fframyn metal yn symboleiddio’r cartref oedd ar y llwyfan a’r symudiadau yn afaelgar dros ben. Llawr gwyn fel y carped moethus oedd ganddi yn y cartref oedd ar lawr.
Yn sicr mae’r ddrama yma yn mynd a chi i fyd Ani ac am awr a chwater, anghofiais am y byd tu hwnt i furiau’r theatr. Os cewch gyfle i fynd i weld y sioe dwi’n siŵr na chewch chi eich siomi.