Gyda nifer o ddigwyddiadau codi arian wedi eu gohirio eleni, penderfynodd Gareth ‘Morfa’ Jones, Dan Downes, Gerwyn ‘NFU’ Davies a finnau greu sialens i godi swm o £1500 ar gyfer ysbyty plant Arch Noa, Ambiwlans Awyr Cymru a hefyd staff uned cardioleg Ysbyty Bronglais lle cafodd Mam-gu Tymawr (Mam-gu Dan a Siân) ofal ffantastig yn ystod ei bywyd.
Rydym erbyn heddiw wedi codi dros £4000, felly, diolch yn fawr i bawb sydd wedi ein noddi!
Y sialens oedd seiclo tua 257 o filltiroedd o Sandringham i Aberystwyth ar 19 a 20 Gorffennaf. Roeddwn i newydd orffen gweithio fel bugail ar ystâd Sandringham a dyna’r rheswm am seiclo o Sandringham i Aberystwyth dros gyfnod o ddau ddiwrnod ganol mis Gorffennaf.
Fe wnaethom ddechrau ar y daith tua 5yb dydd Sul o du allan i dŷ Sandringham a chwarae teg roedd criw bach o bobl wedi codi’n gynnar i ffarwelio a ni yn y glaw. Roedd y 50 milltir cynta` yn fflat ac yn eithaf anodd yn y tywydd. Fe ddechreuodd sychu ac fe gyrhaeddon ni ben ein taith o ryw 158 o filltiroedd ar y dydd Sul rhwng Eccleshall a Market Drayton, wedi cyflawni cyfartaledd o 15.8 milltir yr awr.
Ar ôl cael gwely cynnar a chael uwd i frecwast fe ddechreuon ni am 8yb gyda’r targed o gyrraedd Aberystwyth erbyn 5yp. Roeddwn i’n meddwl y baswn i’n arafach ar y dydd Llun ond gyda chyfartaledd o tua 16 milltir yr awr fe gyrhaeddon ni Glwb Rygbi Aberystwyth erbyn 4.15yp. Roedd yn braf cael seiclo rhyw hanner milltir gyda mab Daniel – Ioan, a merched fy chwaer – Elinor a Leusa. Hoffwn ddiolch i bawb ddaeth i’n croesawu ni adref yn yr haul ar y prom yn Aberystwyth.
Ond mae’r diolch mwyaf, gan y pedwar ohonom i Glyn Tuck ac Eurig Pentrefelin am fod yn help enfawr i ni ar ein taith i wneud yn siŵr ein bod ni wedi gallu cwblhau’r her. Bwyd, diod a theiars – roedd cefnogaeth y ddau yn amhrisiadwy. Heblaw amdanyn nhw bydde mam a dad dal draw yn Sandringham hyd heddiw!!
Os hoffech ein noddi ni ar gyfer yr elusennau uchod byddem yn ddiolchgar tu hwnt!