C.Ff.I Llanddewi-Brefi’n cwrdd.

Noson wahanol iawn oedd hi yn yr AGM eleni, y cyfan ar Zoom. Dyma’r hanes.

gan Mared Lloyd-Jones

Ar ôl yr holl fisoedd, roedd hi’n braf cael y cyfle i gwrdd unwaith eto fel Clwb, er hynny yn wahanol iawn i’r arfer gan nad ydym yn medru cwrdd wyneb yn wyneb. Cafwyd Cyfarfod Blynyddol rhithiol ac fe ail benodwyd y swyddogion blaenorol am flwyddyn arall sef:

Llywydd: Nerys Evans
Cadeirydd: Megan Jenkins
Ysgrifenyddes: Mared Lloyd-Jones
Trysorydd: Sam Jenkins.

Penderfynwyd ar raglen fel y gwelwch yn y llun isod.  Rydym fel clwb yn cwrdd bob yn ail nos Iau am 7.45yh i ddechrau am 8yh. I ymuno â ni cysylltwch â Megan neu Mared ar y rhifau ffôn sydd ar y rhaglen.

Rhaglen y clwb nes diwedd y flwyddyn.

 

Nos Iau ddiwethaf cynhaliwyd Noson Sosial a drefnwyd gan yr arweinyddion i groesawu aelodau newydd a braf oedd gweld nifer o wynebau newydd yn ymuno â ni. Roedd y noson yn un llawn hwyl a sbri wrth i ni gyd gael llond bol o chwerthin iach. Rydym ar hyn o bryd yn paratoi i gystadlu yng nghystadlaethau’r Ffair Aeaf Rithiol sydd yn cael eu cynnal trwy Gymru gyfan. Pob lwc i bawb sy’n cystadlu.

Rydym hefyd yn ffodus iawn fod y Sir yn cynnal nosweithiau ychwanegol i gyfuno pawb o fewn y Sir er mwyn cadw cysylltiad sy’n bwysig iawn ar adeg mor anodd.

Cofiwch os am hwyl a sbri ymunwch a ni yn Clwb Llanddewi!