Diolch am y cyhoeddusrwydd!
Rydym yn chwilio am lun gwych i’w ddefnyddio ar glawr cerdyn Nadolig 2020 Pentir Pumlumon.
Bydd yr enillydd yn mwynhau noson i ffwrdd i ddau berson mewn pod moethus gyda thwba twym yn Wigwam Holidays Aberystwyth, yn edrych ar draws Dyffryn Rheidol*. Diolch anferth i Stephen ac Angela Griffiths am eu caredigrwydd yn cyfrannu’r wobr wych hon.
Mae eleni heb fod yn flwyddyn arferol, felly dydyn ni ddim yn chwilio am lun arferol, Nadoligaidd. Y thema yw “2020, Bywyd Dan Glo” . Hoffem weld lluniau sy’n adlewyrchu eich profiad chi o’r flwyddyn ryfedd iawn hon, ac a fyddai’n addas ar gyfer ein cerdyn Nadolig.
Rhaid bod y llun wedi ei dynnu rywle yn Ucheldir Ceredigion, felly yr ydym yn edrych ar gymunedau cymoedd Ystwyth a Rheidol ac i lawr i Bont a Thregaron. Gallai fod yn olygfa yn unig, yn cynnwys bywyd gwyllt neu anifeiliaid fferm, gyda neu heb bobl! Gall unrhyw un gystadlu, does dim angen i chi fod yn ffotograffydd proffesiynol.
Uchafswm o ddau lun y pen yn unig. Anfonwch eich lluniau i tanya@pumlumon.org.uk erbyn hanner nos ar 2 Tachwedd gyda disgrifiad byr o’ch llun. Cyhoeddir yr enillydd ar 10 Tachwedd. Bydd y llun buddugol yn cael ei ddefnyddio ar ein cerdyn Nadolig. Bydd amrywiaeth o luniau eraill yn cael eu rhannu ar ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol.
Hoffwch ein tudalen Facebook er mwyn dilyn ein cynnydd ac am newyddion lleol.
Pob lwc! ?
Tanya Friswell
Swyddog Datblygu Cymuned a Twristiaeth
PENTIR PUMLUMON
01974 282581
Ariennir y swydd hon drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014 – 2020 a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd.
*Amodau’n Berthnasol