Gyda 2020 bron wedi pasio a chymaint o ddigwyddiadau wedi eu gohirio, mae criw Campau Caron yn edrych ’mlan at 2021 gan obeithio am flwyddyn dipyn gwell o ran cynnal digwyddiadau!
Yn amlwg cadw’n ddiogel a dilyn canllawiau COVID-19 fydd y flaenoriaeth, ond rhaid cadw’ n bositif a chael rhywbeth i edrych ymlaen a chyffroi yn ei gylch.
Mae’r rhaglen yn 2021 yn dilyn yr un drefn â 2020 gyda’r rasus rhedeg 5km a 10km yn cychwyn pethau i ffwrdd cyn dod at ein gŵyl awyr agored ar ddechrau mis Gorffennaf ble fydd y Duathlon, Triathlon, ras feicio fyny’r allt a thaith feicio yn cymryd lle. A phwy a ŵyr, erbyn y penwythnos efallai bydd mwy fyth o ddigwyddiadau bach wedi eu trefnu! Yna i gwblhau’r flwyddyn bydd ein taith feicio mynydd, a fydd yn mynd â chi i mewn i ganol Mynyddoedd y Cambrian.
Yn 2021 byddwn yn cydweithio gyda Chlwb Seiclo Caron i ddarparu’r digwyddiadau yma gyda holl elw pob digwyddiad yn mynd tuag at gynnal, cadw a gwella Canolfan Hamdden Caron. Edrychwn ymlaen i groesawu pawb i’r digwyddiadau yn 2021 ac os am fwy o fanylion ewch draw i’n tudalen Facebook.