Ar ddechrau blwyddyn newydd, mae prosiect cyffrous wedi lansio i hybu’r Gymraeg a’i diwylliant ymhlith pobl sy’n symud i Geredigion.
Nod y prosiect ‘Croeso i Geredigion’ yw codi ymwybyddiaeth am yr iaith Gymraeg ac agweddau gwahanol o fyw trwy gyfrwng y Gymraeg ymysg pobl sy’n symud i’r sir. Y gobaith yw grymuso cymunedau trwy ddangos i bobl pa gyfleoedd sydd ar gael iddynt gyfrannu a chefnogi’n lleol a’u helpu i ddeall sut mae’r Gymraeg yn gwau’n naturiol i fywyd y sir.
Bydd Cered (Menter Iaith Ceredigion) yn gweithio gyda thair cymuned i ddechrau i dreialu’r cynllun dros y misoedd nesaf gan annog pobl leol i’w roi ar waith. Bydd y cymunedau hyn yn cael cyflenwad o gardiau post ‘Croeso i Geredigion’ yn seiliedig ar fap a ddyluniwyd gan Lizzie Spikes a’r cardiau hynny i’w dosbarthu i gartrefi pobl sydd wedi symud i’r ardal. Bydd darllenydd y cerdyn post yn gallu defnyddio’r cod QR ar gefn y cerdyn i gael mynediad at e-lyfr newydd yn llawn gwybodaeth am iaith a diwylliant Ceredigion.
Bydd y prosiect yn cael ei dreialu yn ardaloedd Llansanffraid, Ceinewydd a Thregaron i ddechrau.
Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion sy’n gyfrifol am Ddiwylliant:
“Ein nod gyda’r prosiect hwn yw sicrhau bod pobl sy’n symud i’r sir yn cael eu croesawu a’u cyflwyno at rinweddau naturiol y sir, gan ddysgu am ei hiaith a’i diwylliant. Pa amser gwell i wneud hynny nag ar ddechrau blwyddyn newydd? Gobeithio bydd cymunedau Llansanffraid, Ceinewydd a Thregaron yn ymgymryd yn llwyddiannus â’r prosiect cyffrous hwn, gyda chymorth Menter Iaith Cered, ac y bydd yn ysbrydoliaeth i eraill ledled ein sir.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Andrew Phillips, Cadeirydd Cyngor Cymuned Llansanffraid:
“Mae’r Cyngor Cymuned yn falch o gael y cyfle i gymryd rhan yn y prosiect hwn. Mae trigolion pentref Llanon yn bobl groesawgar ac yn eiddgar i estyn croeso cynnes i newydd-ddyfodiaid i’r pentref a chyflwyno holl gyfoeth y Gymraeg iddynt.”
Dywedodd y Cynghorydd Arwel Jones, Cadeirydd Cyngor Tref Tregaron:
“Mae hyn yn gyfle arbennig i ni hyrwyddo’r Gymraeg i bobl sydd newydd symud i Dregaron ac i ddangos yr holl bethau ffantastig sy’n cael eu cynnal yn yr ardal. Mae’r Cyngor yn edrych ymlaen at gydweithio gyda Cered i gymryd rhan yn y prosiect blaengar hwn.”
Caiff y prosiect ‘Croeso i Geredigion’ ei gynnal gan Cered (Menter Iaith Ceredigion) Cyngor Sir Ceredigion, trwy nawdd Cynnal y Cardi. Am ragor o wybodaeth am sut i gymryd rhan yn y cynllun, cysylltwch â Cered ar cered@ceredigion.gov.uk