Mae casgliad newydd o GIFs Cymraeg bellach ar gael sy’n dathlu enwau lleoedd yng Ngheredigion.
Datblygwyd y delweddau bychain, sydd wedi’u hamineiddio ar gyfer platfformau digidol fel Instagram, TikTok a Snapchat, gan ddisgyblion cynradd ac uwchradd Ceredigion, a hynny ar y cyd â’r cwmni dylunio digidol Mwydro o Gaernarfon.
Mae’r prosiect yn rhan o gynllun #HacyGymraeg a’r gobaith yw meithrin ymwybyddiaeth o’r enwau lleol ac ennyn trafodaeth amdanynt.
Hyd yn hyn, mae ysgolion gogledd y sir wedi datblygu GIFs ar gyfer rhaeadrau Pontarfynach, Nant y Moch, Pumlumon ac Ystad Fflur, ac erbyn mis Medi y nod yw llunio 100 o GIFs o wahanol rannau o’r sir.
Dywedodd y dylunydd, Sioned Young o gwmni Mwydro: “Roeddwn i’n meddwl y byddai’n wych cael cydweithio gyda disgyblion ysgol a rhoi’r cyfle iddyn nhw ddylunio GIFs eu hunain o enwau lleoedd Cymraeg yn eu hardal nhw. Mae’n hyfryd cael dechrau ar y gwaith gydag ysgolion Ceredigion. Dwi wedi dysgu a datblygu fy ngwybodaeth am gynefinoedd yr ysgolion a Cheredigion yn ddiweddar, ac rwy’n siŵr o ddysgu mwy yn ystod y misoedd nesaf.”
Drwy gronfa #HacyGymraeg Llywodraeth Cymru a charedigrwydd Siarter Iaith Cyngor Sir Ceredigion, bydd dros 30 o ysgolion y sir yn manteisio ar weithdy gan Mwydro yn ystod y misoedd nesaf. Mae’r prosiect yn ddatblygiad creadigol pellach o waith ar gynefin y mae’r ysgolion wedi bod yn rhan ohono gyda’r Siarter Iaith yn ystod y flwyddyn diwethaf. Lansiwyd comig Cynefin y Cardi y llynedd, ynghyd â chyfres o bodlediadau Clonc Cynefin.
Ychwanegodd Bethan James, Pennaeth Cynorthwyol Ysgol Mynach: “Am brosiect cyfoes a ddaliodd sylw’r disgyblion. Cafodd y plant amser wrth eu bodd yn ymchwilio, dylunio a datblygu eu sgiliau digidol. Mae gweld y campweithiau ar y rhwydweithiau cymdeithasol rhyngwladol yn hyrwyddo ein hardal leol yn destun balchder i ni fel ysgol.”
Dywedodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: “Dyma brosiect cyffrous a gwych i ddisgyblion Ceredigion ddatblygu eu sgiliau digidol a hefyd dathlu eu cynefin a’u hardal leol. Mae’r GIFs yn edrych yn wych ac yn dathlu’r holl gyfoeth sydd gennym yng Ngheredigion. Llongyfarchiadau mawr, ac anogaf unrhyw un sy’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i fanteisio ar y delweddau bachog hyn.”
Os ydych chi’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, beth am ychwanegu GIF at eich llun a rhoi Ceredigion ar y map? I weld pa ddelweddau sydd ar gael, ewch i safle Mwydro ar GIPHY.