Caron360

Fideos dwys a doniol yn mynd â’r prif wobrau yn nathliad Bro360

Gwobrau Bro360 yn dathlu cyfraniad pobol leol i'w gwefannau bro yn ystod blwyddyn ryfedd 2020

Darllen rhagor

Gwobrau Bro360: yn fyw

gan Lowri Jones

Ymunwch ag Elen Pencwm a Gethin Griffiths mewn rhaglen sy'n dathlu ac yn datgelu eich hoff straeon lleol o'r flwyddyn ddiwethaf

Darllen rhagor

Rhybuddio trigolion am sgamwyr dros frechlyn Covid-19

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi dod yn ymwybodol bod troseddwyr wedi bod yn anfon negeseuon testun ac e-byst yn ceisio denu pobl i wneud cais am frechlyn Covid-19.

Maent yn rhybuddio preswylwyr i fod yn wyliadwrus, i wirio URL gwefan bob amser ac i beidio ag agor atodiadau mewn negeseuon e-bost neu destunau amheus.

Ni fydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol byth yn gofyn am daliad na manylion banc ar gyfer y brechlyn Covid-19.

Maent yn annog preswylwyr i ddilyn y camau isod os cysylltir â nhw:

  • Os ydych wedi derbyn e-bost, nad ydych yn hollol siŵr amdano, anfonwch ef at y Gwasanaeth Adrodd E-bost Amheus (SERS) ar report@phishing.gov.uk
  • Os ydych wedi derbyn negeseuon testun amheus, anfonwch y neges hon ymlaen i’r rhif di-dâl i 7726.
  • Os byddwch yn derbyn galwad ffôn, rhowch y ffôn i fyny ar unwaith a rhwystro’r rhif.

Ben Lake AS yn cyflwyno cynnig seneddol mewn ymateb i ohirio Eisteddfod Tregaron

Mae’r cynnig yn galw ar Lywodraeth Prydain i ddarparu cefnogaeth ariannol i gefnogi’r sefydliad

Darllen rhagor

Deiseb yn galw am godi’r gwaharddiad ar ddosbarthu taflenni ymgyrchu ar gyfer etholiad y Senedd

“Mae hyn yn ymosodiad ar ein democratiaeth ac yn ymgais glir, bleidiol i atal ymgyrchu etholiadol”

Darllen rhagor

Cynllun peilot eiddo fforddiadwy Cyngor Ceredigion yn “gam cyntaf yn y cyfeiriad cywir”

gan Shân Pritchard

Yr ymateb i'r cynllun newydd sy'n rhoi’r cyfle i bobol leol brynu eu cartref cyntaf trwy brynu darn o dir am bris gostynedig

Darllen rhagor

Aros am Eisteddfod

gan Manon Wyn James

Pobl Tregaron a’r ardal yn dysgu bod rhaid bod yn fwy amyneddgar nag erioed o’r blaen. 

Darllen rhagor