Cwis cyntaf ar safle Caron 360

Cwis ardal Caron 360

Dyma gwis ar gyfer Caron 360. Nid oes gwobr yn cael ei gynnig, ond gobeithio y cewch hwyl yn ymchwilio ac yn ei ateb. Diolch i Geraint Morgan (Bwlchllan) am osod y cwestiynnau.

Cwestiwn 1

Ym mhle bu Henry Richards yn Aelod Seneddol?


Cwestiwn 2

Pa un yw llyn mwyaf o lynnoedd Teifi?


Cwestiwn 3

Ymhle yng Ngheredigion mae cylchfan hynaf y sir?


Cwestiwn 4

Pa Arlywydd fu yn pysgota gyda Moc Morgan?


Cwestiwn 5

Gyda pa fand mae Gethin Davies o Landdewi yn drymio?


Cwestiwn 6

Pa ddigwyddiad welodd olau dydd ar 17/5/2014 ?


Cwestiwn 7

Beth oedd enw geni Ieuan Brydydd Hir?


Cwestiwn 8

Ym mha flwyddyn cyhoeddwyd y Barcud am y tro cyntaf?


Cwestiwn 9

Dwr pa gwmni sydd yn cael ei gysylltu a poteli glas a coch?


Cwestiwn 10

Am pa bysgod mawr medrwch bysgota ym Mwlchllan?


Cwestiwn 11

Pwy yw awdur “Hanes Tregaron a’r Cyffiniau” a welodd olau dydd llynedd?


Cwestiwn 12

Yn 1164 cafodd Ystrad Fflur ei adeiladu gyda cymorth arian pwy?


Cwestiwn 13

Pwy agorodd ysgol ramadeg yn Ystrad Meurig yn 1734?


Cwestiwn 14

Ym mha bentref mae y cymeriad Daffyd Thomas yn byw?


Cwestiwn 15

Beth yw enw y Caer Rhufeinig yn Llanio?


Cwestiwn 16

Llun beth oedd ar babur chweugain Banc y Dafad Ddu?


Cwestiwn 17

Ble cafodd Twm Sion Cati ei eni?


Cwestiwn 18

Pwy fu yr unig Aelod Seneddol Llafur dros Sir Aberteifi?


Cwestiwn 19

Ar y tren o Lambed i Aberystwyth (cyn 1965) ble oedd yr orsaf nesaf ar ol Strata?


Cwestiwn 20

Pa gyffur anghyfreithlon rydym yn cysylltu gyda “Operation Julie”?