Mae’r perfformiwr talentog Arthur Siôn Evans o Dregaron wedi cael blwyddyn i’w chofio ar lwyfan ac ar y sgrin fach.
Ac yntau ond yn 8 mlwydd oed, mae Arthur eisoes wedi ffilmio dwy gyfres deledu yn ogystal ag ennill gwobrau lu mewn eisteddfodau cenedlaethol a lleol.
Yn fuan bydd Arthur yn ymddangos mewn cyfres ddrama oriau brig newydd o’r enw Lost Boys and Fairies, sy’n adrodd stori dyner a disglair y perfformiwr Gabriel a’i bartner Andy a’u taith i fabwysiadu.
Awdur y gyfres dair rhan yw’r amryddawn Daf James, ac mae’r cast yn cynnwys sêr megis Siôn Daniel Young, Fra Fee, Arwel Gruffydd, Elizabeth Berrington, Sharon D Clarke a Maria Doyle Kennedy. Chwaraea Arthur ran Gabriel pan yn blentyn, a darlledir y gyfres ar BBC One a BBC iPlayer dros yr haf.
Mae Arthur hefyd i’w weld ar hyn o bryd yn serennu yn y rhaglen blant Byd Tad-cu ar Cyw, S4C. Chwaraeodd ran Hari mewn pedair pennod o’r gyfres sydd ar gael i’w gwylio ar S4C Clic a BBC iPlayer.
Mae Arthur wedi cael llwyddiant nodedig ar lwyfan gan gipio’r wobr gyntaf yn yr Unawd i flwyddyn 3 a 4 yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2023 yn Llanymddyfri.
Mae 2024 wedi cychwyn gyda bwrlwm i Arthur hefyd wrth iddo gipio tair gwobr gyntaf unigol yn Eisteddfod yr Urdd Rhanbarth Ceredigion. Daeth i’r brig ar yr Unawd i flynyddoedd 3 a 4, Llefaru i flynyddoedd 3 a 4 a’r Unawd Alaw Werin i flynyddoedd 6 ac iau. Bydd yn cynrychioli Ceredigion yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Maldwyn ddiwedd mis Mai.
Cadwch lygad allan am yr enw!