Mewn Gwasanaeth Teuluol ym mis Hydref llongyfarchwyd Catherine Hughes am roi gwasanaeth o 50 mlynedd fel organyddes ym Mwlchgwynt. Bu’n cyfeilio yn yr Ysgol Sul a’r Oedfaon ac wedi bod yn gyfeilydd yn y Gymanfa Ganu dros y blynyddoedd a hefyd yn arwain rihyrsals. Cyflwynwyd llechen iddi gan y Gweinidog fel cydnabyddiaeth o’i hymroddiad ar gyrraedd y garreg filltir arbennig yma. Gwerthfawrogir gwasanaeth yr organyddion dros y blynyddoedd.
Cafodd Catherine ei henwebu ar raglen Ifan Jones Evans rhai wythnosau yn ôl! Roedd Ifan yn chwilio am bobl oedd wedi cyflawni gorchwylion arbennig yn eu hardaloedd.
Yn ddiweddar gwahoddwyd hi i ymuno gyda Ifan a phobl eraill oedd wedi cael eu henwebu i dreulio prynhawn ar dren bach Pontarfynach. Bydd y rhaglen yn cael ei darlledu yn ystod y Nadolig.
Llongyfarchiadau a diolch yn fawr Catherine.