Pythefnos cyn gem agoriadol Pencampwriaeth Rygbi’r Chwe Gwlad roedd prif hyfforddwr Tîm Cymru Warren Gatland yn Aberystwyth yn annerch cynulleidfa o 200 o bobl yng ngwesty’r Marine. Mewn awyrgylch cartrefol, siaradodd yn eang am ei brofiadau yn y byd rygbi, o’i ddyddiau chwarae gyda Waikato a’r penderfyniad mawr yn 24 oed i adael Seland Newydd i fod yn chwaraewr-hyfforddwr gyda thîm rhanbarthol Galwegians RFC, yn Iwerddon. Cafwyd nifer o hanesion diddorol o’i gyfnod yn hyfforddi Wasps yn Llunden, ei gyfnod cyntaf gyda Chymru o 2007 tan 2019, a phedair taith Llewod Prydain ac Iwerddon.
Siaradodd yn blaen ac onest am flwyddyn gythryblus Rygbi Cymru, ac am lwyddiant a siom ymgyrch Cwpan Y Byd 2023. Beirniadodd penderfyniad rhai chwaraewyr i ddweud eu bod nhw’n ffit i chwarae yn y gêm go-gyn derfynol yn erbyn yr Ariannin, er eu bod nhw mewn gwirionedd, yn cario anafiadau. Edrychai ymlaen at Bencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni yn ei ffordd hyderus arferol, er cyfaddef fod y garfan yn ifanc ac mewn cyfnod o ddatblygu.
Wrth drafod cyflwr Rygbi yn gyffredinol yng Nghymru pwysleisiodd bwysigrwydd Rygbi Ysgolion i ddatblygu chwaraewyr. Cyfeiriodd at streic athrawon yn y 1980’au a’r effaith gafodd hwn ar arafu datblygiad. Ychwanegodd fod Ysgolion Seland Newydd yn hanfodol i ddatblygiad y gêm yno, gan gyfeirio at ei ysgol ef Hamilton Boys High School – sydd heddiw a dros 2,000 o ddisgyblion a 45 tîm Rygbi!
Roedd y noson wedi ei threfnu gan gwmni ‘Go To Events’ menter ar y cyd gan gyn-ddisgybl Ysgol Tregaron Emlyn Jones a’r darlledwr John Paul Davies.
“Bwriad y gyfres o ddigwyddiadau yw dod ag enwau mawr y byd chwaraeon allan o Gaerdydd ac Abertawe i greu cynulleidfa newydd yn y Canolbarth,” meddai Emlyn. “Cafwyd noson arbennig gydag eicon Rygbi’r Gynghrair a chyn hyfforddwr Cymru Shaun Edwards ym Mis Tachwedd ac eto tro hyn gyda Warren Gatland. Mae’r ymateb wedi bod yn wych, diolch i bawb am eu cefnogaeth. Mae elusen wahanol yn cael ei chefnogi gan bob digwyddiad, tro hyn codwyd dros £2,000 mewn ocsiwn tuag at y Doddie Weir Foundationsy’n cefnogi ymchwil at y clefyd Motor Neurone. Bydd mwy o ddigwyddiadau yn ystod 2024, a bydd y wybodaeth i gyd ar ein tudalen Facebook ‘Go To events,’ ” ychwanegodd.
Yn ystod y noson cafwyd hefyd gyfle i longyfarch tri chwaraewr ifanc lleol am ennill eu lle yng ngharfan hyfforddi’r Scarlets dan 18 oed. Mae Harri Jones, Steffan Jac Jones a Deian Gwynne wedi dod trwy system timoedd Iau Aberystwyth cyn cael eu dewis i’r Scarlets. Mae Deian yn fab i Dewi a Nicol ac yn ŵyr i Anne Gwynne a’r diweddar Dai, Cefnbanadl, Tynyreithyn , Tregaron. Pob dymuniad da iddynt.