Ymweld ag Argraffwyr Lewis a Hughes

Merched y Wawr Tregaron

Delyth Rees
gan Delyth Rees

Ym mis Chwefror cafwyd cyfle i ymweld ag Argraffwyr Lewis a Hughes. Busnes llewyrchus sy’n cael ei rhedeg gan Meilyr a Ffion. Croesawyd ni gan Ffion a diddorol oedd gwrando ar hanes y busnes yn datblygu o’r dechrau cyntaf yn paratoi’r lle a’i addasu yn ôl y gofyn.

Maent yn cynhyrchu pob math o ddeunyddiau gan gynnwys baneri, pamffledi, lluniau, posteri, cardiau cyfarch, matiau, cwpanau a llawer iawn mwy. Yn ystod Cofid fe fuont yn brysur tu hwnt yn gwneud y sticeri a’r arwyddion i lawer iawn o gwsmeriaid ar draws Cymru. Hefyd yn ystod yr Eisteddfod gwelwyd eu gwaith ar y byrnau gwair a’r baneri oedd o amgylch Ceredigion. Braf oedd cael mynd o amgylch i weld y peiriannau a’r gwahanol waith y gellir ei wneud ac roedd wir yn agoriad llygad i weld y cyfan. Dangosodd Euros Lewis y broses fel yr oedd yn mynd ati i greu baner a hefyd y dechneg o roi enw neu lun ar gwpanau.

Diolchodd Manon Wyn James i Meilyr, Ffion ac Euros am roi o’u hamser a rhoi’r cyfle i ni edrych tu ôl i’r llenni yn eu gweithle. Nid ar chwarae bach mae dechrau busnes a dywedodd mor falch ydym ohonynt, a’n bod yn ffodus iawn i gael busnes dwyieithog yn cael ei rhedeg gan bobl ifanc ar stepen y drws. Dymunwyd yn dda iddynt eto i’r dyfodol.

Troedio yn ôl i’r Neuadd Goffa wedyn, i gael paned a baratowyd gan y pwyllgor. Trafodwyd rhai materion gan gynnwys Gŵyl Fai Ceredigion ac anogwyd yr aelodau i fynd ati i gystadlu. Llongyfarchwyd Fflur Lawlor ar ei llwyddiant ar ennill gwobr Barn y Bobl Bro 360, fel un o’r gohebwyr, am greu stori sef ‘Cylch cofio ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â Thregaron’. Roedd storïau naw gwefan bro wedi dod i’r rhestr fer ac ymfalchïwn fod stori Fflur o Caron360 wedi dod i’r brig o dros 1,100 o storiau gwahanol.

Roedd y wobr raffl yn rhoddedig gan Iona Davies ac fe’i henillwyd gan Anne Evans.