Wyn Mel yw Tywysydd Parêd Gŵyl Ddewi 2023

Wyn Melville Jones fydd tywysydd Parêd Gŵyl Ddewi Aberystwyth yn 2023

gan Efan Williams

WYN MEL YW TYWYSYDD PARED GŴYL DDEWI 2023

Y gŵr busnes, artist a ‘thad Mr Urdd’, Wynne Melville Jones (Wyn Mel) fydd Tywysydd Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth a gynhelir ar ddydd Sadwrn 4 Mawrth 2023. Mae’r Parêd yn cydnabod ei gyfraniad i fudiad yr Urdd yn genedlaethol ac yn arbennig i’w gyfraniad yn lleol fel gŵr busnes a hyrwyddwr y Gymraeg. Wedi gweithio i’r Urdd, sefydlodd Wyn gwmni cysylltiadau cyhoeddus Strata Matrix a bu’n rhedeg Deli Cymru ar Rodfa’r gogledd. Bu’n Gadeirydd yr Urdd ac mae nawr yn Llywydd Anrhydeddus. Mae Wyn yn wreiddiol o Dregaron, mae Wyn bellach yn byw yn Llanfihangel-gennau’r-glyn (Llandre) ac yn artist uchel ei barch.

Rhoddir braint ‘Tywysydd’ ym mhob gorymdaith Gŵyl Dewi ers ei sefydlu yn 2013 a bydd y Tywysydd yn arwain y Parêd drwy dref Aberystwyth. Mae’n arwydd o ddiolch a gwerthfawrogiad cymuned Aberystwyth i berson neu bersonau lleol sydd wedi gwneud cyfraniad pwysig i iaith a diwylliant Cymru.

Wedi gweithio gyda’r Urdd, sefydlodd Wyn gwmni Strata (yn hwyrach Strata Matrix) yn 1979. Roedd ganddi swyddfeydd yn Aberystwyth a Chaerdydd a dyma oedd y cwmni cysylltiadau cyhoedd dwyieithog gyntaf gan weithredu am 30 mlynedd.

Bu hefyd yn weithgar dros y Gymraeg gan fod yn un o sylfaenwyr cylchgrawn Golwg, papur bro ‘Y Tincer’ a bu’n ymgyrchu am dros ddeng mlynedd i ennill statws i enw gwreiddiol Llandre, Llanfihangel Genau’r Glyn, yn enw swyddogol. Bu’n ganolog hefyd yn sefydlu Banc Bro yn y gymuned fel adnodd i allu codi arian a thynnu’r gymuned at ei gilydd. Mae llwybr barddoniaeth gyhoeddus – Llwybr Llen Llanfihangel Genau’r Glyn (Poetry Path yn Saesneg) wedi ei ddatblygu mewn coedlan o’i eiddo i glodfori traddodiad barddol y fro.

Yn gyn-fyfyriwr Celf dychwelodd at ei ddiddordeb byw mewn celfyddyd gain ac ar ôl ymddeol ail-gydiodd yn y brwsh paent wedi bwlch o ddeugain mlynedd. Bu’n gynhyrchiol iawn a chynhyrchodd 450 o ddarluniau gwreiddiol ac mae ei waith i’w weld dros Gymru mewn cartrefi ac orielau celf. Mae ei waith wedi teithio ymhellach ac mae ei ddarlun o gapel Soar-y-Mynydd yn eiddo i gyn Arlywydd yr Unol Daleithiau Jimmy Carter a’i lun o Graig Elvis, Eisteddfa Gurig yn Gracelands Tennessee, hen gartref y Brenin Roc a Rôl, sydd bellach yn amgueddfa a chreirfa i gofio Elvis

Meddai Siôn Jobbins, Cadeirydd y Parêd:

“Rydym yn hynod falch i Wyn Mel wedi derbyn ein cais i fod yn Dywyswyr eleni. Mae ei gyfraniad wrth hyrwyddo Cymreictod gyfoes boed wrth greu Mr Urdd neu ei waith yn sefydlu a rhedeg busnes Strata Matrix a nawr fel artists yn hynod. Dangosodd sefydlu Strata Matrix bod modd sefydlu busnesau cyfoes yma yn Aberystwyth a hynny gyda’r Gymraeg yn ganolog – mai nad iaith ar gyfer un fath o fusnes oedd y Gymraeg. Mae wedi gweithio dros ddegawdau i gyflogi pobl ac i hyrwyddo Cymru a Chymreictod,” meddai Siôn Jobbins

Meddai Wyn:

“Mae’r gwahoddiad i arwain gorymdaith y Parêd drwy strydoedd Aberystwyth yn anrhydedd fawr i mi ac rwy’n teimlo’n wylaidd iawn wrth feddwl fy mod yn llinach y cewri a’r arloeswyr sydd wedi arwain yr achlysur ers 2013 – pobol o sylwedd, o alluoedd a thalentau arbennig a phob0l sydd wedi cadw’r fflam yn fyw

“Mae Aberystwyth yn arwyddocaol iawn o safbwynt yr Iaith Gymraeg a Chymreictod – tref yr Ysgol Gymraeg gyntaf yng Nghymru, tref Protest Pont Trefechan, tref diwylliant a chartref cynifer o sefydliadau a mudiadau allweddol ein cenedl ac mae yna gyflogaeth Gymraeg sylweddol yn y dre a’r ardal.

“Mae’r Parêd yn achlysur hapus a hwyliog ac yn gyfle i ddathlu Dewi Sant ac yn gyfle i bawb ohonom i ddod at ein gilydd i gadw sŵn ac i floeddio ein Cymreictod ar y priffyrdd a’r caeau ac i rannu ein balchder yn ein cenedligrwydd gyda holl bobol y dre

“Cerddwn ymlaen gyda’n gilydd – dewch gyda ni”

Llwybr yr Orymdaith:

Cynhelir Parêd 2023 ar ddydd Sadwrn 4 Mawrth 2023. Bydd yn dechrau o Gloc y Dre i waelod y Stryd Fawr, ac yna troi i’r chwith ar gornel Banc Barclays am Ffordd y Môr a syth am Lys-y-Brenin. Bydd top y rhannau o Stryd y Baddon a Ffordd y Môr sy’n ffinio â Llys y Brenin ar gau i gerbydau am gyfnod y Seremoni.

Noddwyr:

Mae’r trefnwyr yn hynod ddiolchgar am nawdd – Cyngor Tref Aberystwyth am eu nawdd hael a Chlwb Cinio Aberystwyth am eu nawdd a chymorth.

Tywyswyr Blaenorol:

Mae Wyn Mel yn dilyn yn ôl traed Robat ac Enid Gruffudd (2022), Meirion Appleton (2020), Dilys Mildon (2019), perchennog bwyty enwog Gannet’s; yr awdur, cyhoeddwr a gweithredwr, Ned Thomas (2018); y diddanwr a’r codwr arian Glan Davies (2017); yr artist Mary Lloyd-Jones (2016); yr awdur a’r cyn-brifathro Gerald Morgan (2015); sylfaenwyr busnes Siop y Pethe, Megan a Gwilym Tudur (2014) a’r cerddor, awdur a chynhyrchydd teledu, Dr Meredydd Evans (2013). Fel Tywysydd bydd Robat yn gwisgo sash hardd a wnaed yn unswydd i’r Parêd gan Caroline Goodband o Fachynlleth ac sy’n cynnwys enwau cyn dywyswyr. Yn dilyn y traddodiad o Wlad y Basg, caiff Meirion hefyd rodd o ffon gerdded wedi ei gerfio gan y diweddar Hywel Evans gynt o Gapel Dewi.

Mae Wyn Mel hefyd wedi rhoi darlun o’i waith MACHLUD ABERYSTWYTH i’w gyflwyno i’r busnes neu’r sefydliad sydd wedi dangos defnydd sylweddol o’r Gymraeg yn ystod y flwyddyn. Cylch Cinio Aberystwyth sydd yn gweinyddu hwn.