Ar nos Wener 23 Mehefin cynhaliwyd noson ardderchog yng nghyntedd Pafiliwn Pontrhydfendigaid. Daeth tyrfa niferus ynghyd ar gyfer noson wedi ei drefnu gan y prifardd Ifor ap Glyn fel rhan o’i daith ‘Sha Thre/Am Adra’, lle mae’n treulio’r dyddiau yn cerdded o un lleoliad i’r nesaf, ac yn cynnal noson i godi arian at achosion a chymdeithasau lleol yn y nos. Dechreuodd y daith yng Nghaerdydd a bydd yn diweddu yng Nghaernarfon. Hanner ffordd, felly, oedd y noson yn Bont!
Roedd y noson er budd papur bro Y Barcud, Clwb Pêl Droed Pontrhydfendigaid, ond cytunodd y ddau fudiad fod yr arian a godwyd yn mynd tuag at gronfa i dalu am hediadau awyren Triano i ganu yng Ngŵyl Gymreig Gogledd America.
Cafwyd cyflwyniadau arbennig gan Ifor ap Glyn, medli ardderchog ar y piano gan Harri Evans, perfformiadau gan Triano, sef y chwiorydd prysur Charlotte, Jessica ac Emily o Swyddffynnon ac eitemau hefyd gan Barti Camddwr, a’r cwbwl dan arweiniad John Meredith.
Roedd naws hwyliog a chyfforddus i’r noson, oedd yn ein hatgoffa o’r hen nosweithiau llawen. Hyfryd fyddai gweld rhagor o nosweithiau fel hyn yn cael eu cynnal yn ein bro yn y dyfodol.