Taith Dyfan i Seland Newydd

Dyfan Jones, Abernac Lledrod yn cneifio yn Seland Newydd

gan Efan Williams

YMWELIAD DRAMOR

Mae Dyfan Jones, Abernac Lledrod, newydd ddychwelyd ym mis Chwefror wedi iddo dreulio tri mis yn Seland Newydd yn cneifio ac ar yr un pryd yn cael cyfle i deithio’r wlad honno.  Diolch i Dyfan am roi cipolwg bach inni o’i ymweliad drwy’r adroddiad isod:

Penderfynais fynd i Seland Newydd gan fy mod eisiau ehangu fy sgiliau cneifio. Y tro cyntaf i mi fynd oedd 2017 ac rwyf wedi bod yno dair gwaith ers hynny ar gyfer y tymor cneifio prysuraf. Mae’r niferoedd o ddefaid sydd yn Seland Newydd llawer fwy o gymharu â Chymru ac felly yn cynnig digon o gyfleoedd i bob math o gneifwyr o bob safon.

Mae’r tymor prysuraf yn dechrau o ddiwedd mis Tachwedd ac yn parhau nes hanner Chwefror.  Roedd hyn yn ddigonedd o amser felly er mwyn cael gwella ac i ddod i ‘nabod llawer o ffrindiau newydd, ac yn bennaf gwneud bach o arian.

Diwrnod arferol yn y sied byddai dechrau cneifio am 7yb a gorffen am 5yp, bob dydd.  Byddem yn cael hanner awr o doriad yn y bore a phrynhawn ac awr i ginio. Ar ôl cyrraedd nôl i’r “quarters” peint o gwrw oedd yn mynd lawr yn lyfli wedi diwrnod chwyslyd a phoeth yn y sied gneifio cyn dechrau meddwl am fynd ati i lanhau a hogi’r “combs a’r cutters” yn barod ar gyfer y bore wedyn.

Wrth deithio i’r sied gneifio bob dydd, roeddwn yn gweld amryw o dirweddau gwahanol.  Mae’r tywydd yn Seland Newydd yn gallu fod yn debyg i’r tywydd yng Nghymru ond hefyd yn adnabyddus am fod yn wlad drofannol, llynnoedd, rhaeadrau dŵr a thraethau oedd i’w gweld ar draws y wlad.  Roeddwn yn ffodus i allu teithio o gwmpas y ddwy ynys eleni, ac felly wedi gweld llawer o rhain. Roedd gofyn gyrru oriau i fynd o un lle i’r llall, ond roedd y tywydd a’r golygfeydd gwerth eu gweld.

Ar ôl bod allan am bedwar tymor cneifio, rwy’n teimlo fy mod wedi elwa yn fawr o’r profiad gan fy mod wedi datblygu fy sgiliau cneifio i safon uchel erbyn hyn. Roeddwn yn ffodus i gael hyfforddwyr da oedd yn barod iawn i rannu awgrymiadau, ac wrth wrando, daeth y cneifio yn rhwyddach ac yn fwy haws a’r gallu i gneifio fwy bob dydd.  Byddem yn annog unrhyw un i fynd allan i’r wlad gan fod gymaint i’w weld a hefyd yn wlad ddelfrydol os ydych am wella eich cneifio.

                                                                                                   Dyfan Jones