Plygain Lledrod

Plygain cyntaf Lledrod yn llwyddiant ysgubol

gan Efan Williams
Caron3

Capel Rhydlwyd dan ei sang!

Caron1

Côr CYD Aberystwyth

Caron5

Parti Camddwr

Caron2

Triawd y Penrhyn (Trefor, Ceris a Dai)

Caron4

Trawd Rhydlwyd (Efan, Carys Ann a Barry)

Caron6

Pawb yn canu Carol y Swper

Cynhaliwyd “pylgan” cyntaf Lledrod yng Nghapel Rhydlwyd ar nos Lun 30 Ionawr. Roedd y noson yn llwyddiant ysgubol, gyda’r capel dan ei sang. Daeth y gymuned oll ynghyd i baratoi’r capel gan addurno a pharatoi bwyd a gwnaethpwyd recordiad sain o’r noson gan Geraint Lloyd, Tynrhelig er mwyn cael cofnod o’r blygain gyntaf hon ar gof a chadw.

Agorwyd y noson gan Efan Williams, Wyre View. Croesawodd pawb am ddod allan a soniodd dipyn bach am hanes y blygain yn Lledrod, gyda thystiolaeth o blygain mor bell yn ôl ag 1896 yn Eglwys San Mihangel. Mae wedi addo mynd ati i gasglu rhagor o hanes y traddodiad yn y pentref! Canwyd y garol gynulleidfaol gyntaf, sef Wele Cawsom y Meseia, gyda Meinir Jenkins, Ynysforgan wrth y piano. Yna cafwyd gweddi bwrpasol gan Beti Griffiths, Rhiwfallen gynt, a chyhoeddodd hi’r blygain yn agored.

Yna daeth tro’r carolwyr i ddod i fyny i’r sêt fawr i gyflwyno carol. Roedd amrywiaeth eang o garolwyr wedi dod atom o bell ac agos, yn bartïon, triawdau ac unigolion. Cafwyd wyth eitem i gyd a phob un yn cyfleu naws unigryw’r traddodiad i’r dim. Hyfryd oedd gweld amrywiaeth o garolwyr wedi teithio i ddod atom, ond hefyd roedd yn braf iawn fod blas lleol ar nifer o’r eitemau. Awn ati’r flwyddyn nesaf i ddatblygu arferion ymysg trigolion Lledrod ar gyfer y tro nesaf.

Canwyd O Deued Pob Cristion gan y gynulleidfa wedyn cyn symud ymlaen i’r ail rownd o garolau. Ymunodd y carolwyr i gyd gyda’i gilydd i ganu Carol y Swper ar y diwedd, cyn i’r trigolion lleol ddarparu te a bwyd blasus i bawb oedd wedi dod. Cafwyd gwledd a hanner!

Ymfalchïwn fel cymuned fod Plygain Lledrod wedi bod yn llwyddiant mawr. Diolchwn i bawb a helpodd gyda’r paratoadau, i’r carolwyr am ddod atom a chyfrannu mor wych at y noson, ac i’r gynulleidfa am droi allan o bob cwr o’r ardaloedd yma i’n cefnogi. Mae’n saff dweud fod digon o frwdfrydedd i barhau ac i sefydlu’r blygain yn rhywbeth blynyddol. Welwn ni chi gyd y flwyddyn nesaf!

Cliciwch ar y linciau uchod i glywed blas o garolau’r noson yn ogystal ag enghraifft o’r canu cynulleidfaol oedd yn ysgytwol ar y noson.

Mor hyfryd yw dyrchafu cân

O fawl di-lyth i’n Prynwr glân.

Mewn anthem gref, cyfodwn lef

O foliant i Dywysog Nef.