Myfanwy Jones, fu’n Swyddog Datblygu’r Gymraeg yng Nghyngor Sir Gâr, yw Cyfarwyddwr newydd Mentrau Iaith Cymru.
Wedi’i magu yn Y Gwyndy, Lledrod, ac yn gyn-ddisgybl o Ysgol Gynradd Lledrod ac Ysgol Uwchradd Tregaron, roedd Myfanwy Jones yn flaengar yn y gwaith o ddatblygu strategaeth Cyngor Sir Gaerfyrddin i hybu’r Gymraeg.
Bu’n arwain a chydlynu Fforwm Strategol Sirol y Gymraeg hefyd, ac mae ganddi brofiad cynllunio ieithyddol drwy ei gwaith â Menter Iaith Abertawe a Bwrdd yr Iaith Gymraeg a’i gwaith llawrydd.
Cwblhaodd radd gyntaf mewn Cymraeg, Ffrangeg ac Almaeneg ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae ganddi ddoethuriaeth o Brifysgol Warwick.
Arf hollbwysig
Datblygu strategaeth genedlaethol i’r Mentrau Iaith ar gyfer y blynyddoedd nesaf, cefnogi a chynrychioli’r mentrau a hyrwyddo eu gwaith fydd prif orchwylion Myfanwy Jones.
“Mae’r Mentrau Iaith yn arf hollbwysig yn ein hymdrechion i gynnal y Gymraeg fel iaith gymunedol, ac edrychaf ymlaen yn fawr at eu cefnogi a’u cynorthwyo i ddatblygu er budd y Gymraeg yn fy swydd fel cyfarwyddwr,” meddai Myfanwy Jones.
“Byddaf yn canolbwyntio ar ddatblygu partneriaethau a datblygu ymwybyddiaeth o waith y mentrau ar gychwyn y swydd bwysig hon.”
Corff ymbarél, cenedlaethol yw Mentrau Iaith Cymru sy’n cefnogi’r rhwydwaith o 22 Menter Iaith ledled Cymru trwy ddarparu cymorth marchnata a chyfathrebu, hyfforddiant a chyfleoedd i rannu gwybodaeth, profiadau, syniadau ac adnoddau rhwng y Mentrau Iaith.
Hoffai drigolion Lledrod a holl ardal Bro Caron ddymuno pob dymuniad da i Myfanwy wrth gychwyn ar y gwaith. Rydym yn ymfalchïo’n fawr yn ei llwyddiant.