gan
Cerith Evans
Eleni eto mae’r Cyngor sir wedi penderfynu eu bod am adael i bobol barcio yn safleoedd parcio’r Cyngor am ddim yn ystod tri dydd Sadwrn cyn y Nadolig.
Maent wedi penderfynu gwneud hyn er mwyn rhoi hwb i fusnesau lleol a bach y trefi. Mae gadael i bobl barcio am ddim yn rhoi mwy o amser i siopa i bobl, a does dim angen poeni am fynd nôl i symud eu cerbydau.
Y tri dydd Sadwrn lle bydd yn bosib i barcio am ddim ydy’r 9/12/23,16/12/23 ac y 23/12/23.
Cefnogwch fusnesau lleol a bach eleni! 🎄🎅