Hadau Gobaith

Pancos a Phaned-Gofalaeth Caron.

gan Eirwen James

Ar Nos Fawrth Ynyd daeth Gofalaeth Caron ynghyd dan arweiniad y Parch Carwyn Arthur i gasglu arian tuag at ymgyrch Hadau Gobaith Cymorth Cristnogol.

Cafwyd gwledd o boncage, paned ac eitemau o’r capeli. Ysgol Sul Bwlchgwynt, Meleri Morgan o gapel Bwlchllan a Pharti Ffrindiau.

Casglwyd hyd yma swm anrhydeddus o £1,357 i’w wario yn y gwledydd sy’n teimlo effaith newid hinsawdd eithafol. Mae Cymorth Cristnogol yn gweithio mewn partneriaeth â mudiadau lleol dibynadwy er mwyn sicrhau fod yr arian yn cael ei wario yn ddoeth.

Ar wefan  Cymorth Cristnogol gwelir enghreifftiau byw o ferched yn Kenya yn magu ffowls er mwyn creu cymuned gynaliadwy a merched yn Honduras yn defnyddio paneli solar i sychu ffa coffi a gwella ei ansawdd

Rhannwyd papur hadau ar y noson. Y gobaith yw y bydd rhoi pridd, gwres haul  a dŵr i’r hadau yn cymell tyfiant ac yn arwydd o’r fendith fewnol.

Diolch i Ymddiriedolaeth Blakemore, Spar Tregaron am y cynhwysion ac i bawb a wnaeth sicrhau llwyddiant y noson.