Gwobr o fri i Felicity

Gwobr Ysbrydoli yn Adran Tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion

Anna ap Robert
gan Anna ap Robert

Gwobr o fri i Felicity

Llongyfarchiadau mawr i Felicity Roberts o Bow Street am iddi ennill y wobr Ysbrydoli yn Adran Tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion, a gyflwynir gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.  Mae Felicity yn Diwtor a Chydlynydd Cymraeg i Oedolion yn Dysgu Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac mae wedi bod yn diwtor Cymraeg am dros hanner can mlynedd. Un o Chwilog yn Eifionydd ydy hi yn wreiddiol fodd bynnag, ac fel y dywedodd wrth dderbyn ei gwobr yn y Senedd yng Nghaerdydd, bu ei magwraeth yn Chwilog yn ysbrydoliaeth iddi ar hyd ei hoes.

Dywedodd Felicity ymhellach, “Mae’n llonni calon pan fydd y rhai sydd wedi dod i siarad yn rhugl yn dod yn aelodau llawn o’r gymuned Gymraeg, a rhai fel ein haelod seneddol, hyd yn oed yn cymryd yr awenau yn ein cymdeithasau a’n sefydliadau. Does dim yn rhoi mwy o foddhad na gweld y rhai a fu’n dysgu efo fi yn dod yn unigolion sydd yn angerddol dros ddefnyddio’r Gymraeg, ac yn ei hyrwyddo ar bob cyfle. Mae hynny yn ysbrydoliaeth o’r newydd i mi.”