A Oes Gwaddol?

Golygyddol rhifyn mis Ionawr Y Barcud

gan Efan Williams
Picture1

A Oes Gwaddol?

Dyna ni, hedfanodd 2022 heibio fel pob blwyddyn arall. Anodd credu ar ôl aros mor hir ein bod ni wedi mwynhau gwledd o Eisteddfod Genedlaethol Cymru ar gaeau Tregaron yn ystod mis Awst a’i fod wedi bod yn gymaint o lwyddiant, ac yn ôl rhai, “yr Eisteddfod orau erioed”.

Wedi’r sioe, ac ar ôl i bob ôl o’r Eisteddfod ddiflannu, y gair mawr bob tro yw “gwaddol”. A adawyd unrhyw olion cadarnhaol ym mro’r Barcud ar ôl ymweliad y brifwyl? Cwestiwn anodd ei ateb.

Gallaf ond ymgeisio i ateb y cwestiwn gan dynnu o fy mhrofiad fy hun, ond mae’n rhaid i mi ddweud, roeddwn i’n ddyn prysur cyn yr Eisteddfod, ac mae’r dyddiadur yn llawnach nag erioed. Rwy’n gweld fod niferoedd tyrfaoedd yn mynd yn llai o hyd ond fod yr awydd i drefnu a chynnal cyngherddau, gweithgareddau cymdeithasau ac eisteddfodau yn gryfach os rhywbeth. Rwyf hefyd yn gweld ers y cyfnodau clo fod pobl i weld yn fwy parod i ddweud “Ie, pam lai?”.

Mae arwyddion fod y brifwyl wedi bod yn dal i’w gweld, mae yna ambell i faner yn dal i chwifio, ac mae draig eiconig Lledrod ar groesffordd Rhydyrefail yn dal i sefyll fel symbol o obaith a gobaith diwylliant. Sylwaf hefyd fod rhywrai lleol wedi bod yn trwsio ei ben a’i gwt wedi stormydd yr Hydref a gwyntoedd y gaeaf – arwydd arall o awydd trigolion yr ardal i barhau i weithio a chydweithio yn ein bro efallai.

Braf gweld fod Eisteddfod Swyddffynnon ac Eisteddfod Pontrhydfendigaid wedi datgan eu bod am ail-gydio wedi’r cyfnodau clo a gobeithio y bydd eisteddfod hefyd yn Nhregaron pan ddaw’r Hydref.

Felly yn ôl i’r cwestiwn cychwynnol; A oes gwaddol? Yn fy marn i, o edrych o amgylch ein bro, oes…a’r ddraig goch ddyry gychwyn!

Efan Williams