Golygyddol Y Barcud Mis Ebrill

gan John Jones, Tynfron Ffair Rhos

gan Efan Williams

GOLYGYDDOL

GWERS BWYSIG O FYD NATUR

Erbyn i’r rhifyn hwn o’r BARCUD weld golau dydd, bydd tymor wyna arall wedi gorffen gyda’r mwyafrif o’r ffermwyr. Mae’n waith caled, yn enwedig pan fo’r tywydd yn anffafriol, ond eto’i gyd mae’n hyfryd bob Gwanwyn i weld yr ŵyn bach yn prancio’n y caeau ledled y fro. Maent yn cyhoeddi diwedd y gaeaf llwm a gobaith wrth i’r dydd ymestyn a thyfiant yn y meysydd.

Mae diadell fechan o ddefaid mynydd Cymreig wedi bod ar dyddyn Tynfron erioed, ac mae wyna, er y colledion, yn rhoi gwefr pur yn flynyddol. Bellach mae’r cyfan yn digwydd yn y sied er hwylustod  prysurdeb bywyd!

Pan oedd y plant, Cadi a Siencyn yn tyfu, cawsant oen menyw ddu yr un yn anrheg, a dros y blynyddoedd aeth y ddwy yn bedair a’r pedair yn wyth, hyd nes i ni ddweud na chaniateid mwy nag ugain!!!!

Bellach, ers rhai blynyddoedd mae’r defaid yn cael hwrdd du pur Cymreig bob Hydref, diolch i garedigrwydd John Green, Llanddewi Brefi.

Y dydd o’r blaen, roedd dafad wen ar fin geni’n y sied a dafad ddu’n paratoi i ŵyna yng nghornel y lloc. Ar ôl gweld bod yr oen bach gwyn wedi ei eni, nid oedd amser aros i’r ddafad ddu, gan fod cyfarfod yn galw (yng nghanolfan y Barcud!!!). Rhoddwyd ffydd yn y ddafad, gan fod defaid duon fel arfer yn ŵyna’n rhwydd a di-drafferth.

Dychwelwyd o fewn dwy awr – newid a mynd ar ras i’r sied i ganfod y newyddion diweddaraf, ac am olygfa!

Roedd y ddafad ddu’n magu 2 oen – ei hoen du cryf ei hunan a’r oen bach gwyn a ddaeth cyn i fi adael. Roedd mam yr oen bach gwyn wedi cilio i’r cornel a golwg ddiflas arni – o’i dal, darganfod nad oedd llaeth ganddi, ac na fedrai fagu’r oen. Roedd y ddafad ddu wedi achub y dydd.

Yn ystod y cyfnod diweddaraf yma, yn enwedig yn adeg Cofid, gwelwyd hiliaeth ar ei waethaf, a’r pen llanw oedd marwolaeth George Floyd yn yr Unol Daleithiau. Lledaenodd y protestiadau i Brydain a Lloegr yn arbennig, wrth i enghraifft ar ôl enghraifft o weithredoedd hiliaethol amlygu eu hunain. Mae’n parhau o hyd, yn enwedig ar y meysydd pêl droed bob penwythnos.

Ie, unwaith yn rhagor, fel yn y rhyfel, gwelwyd annynoldeb dyn tuag at ei gyd ddyn.

Y gred gyffredinol dros y wlad yn dilyn Cofid yw bod pobl yn gyffredinol wedi mynd yn llawer byrrach eu hamynedd, a chasineb yn rheoli eu bywydau. Cymdeithas ddifater yn poeni am neb ond nhw eu hunain. Llawer ddim yn fodlon mynd y filltir ychwanegol i helpu rhywun llai ffodus.

Weithiau mor braf yw dysgu gwers o fyd natur. Roedd y ddafad ddu wedi rhoi esiampl wych i ddynolryw a dynoliaeth. Fe welodd fod yr oen bach gwyn heb gynhaliaeth a’i fam yn methu a’i fwydo. Roedd hon yn barod i fynd y filltir ychwanegol heb ofyn cwestiynau. Dangosodd gariad diamod heb unrhyw arwydd o hiliaeth o dan ei chot ddu o wlân. Er bod ganddi hi bellach oen du hyfryd ei hunan, roedd yn barod i rannu gymaint o laeth a oedd ganddi gyda’r oen bach gwyn a oedd bellach yn amddifad, ac o edrych ar olwg ddiflas mam yr oen bach gwyn, na cheisiodd ei hawlio nôl, rwy’n siŵr ei bod yn dweud ‘diolch’. Er cael cyfle i roi’r oen bach i ddafad arall, ni fedrais wneud hynny, ac mae’r efeilliaid yn dod ymlaen yn dda ac wrth gwrs yn cael y lle gorau mewn cae llawn tyfiant y Gwanwyn ar bwys y tŷ!!

Ie, diolch bod yna ambell ddafad i ddysgu gwersi i ni sut i drin ein gilydd.

 

John Jones