Erin Trysor, Llangeitho

Enillydd Tlws yr Ifanc Eisteddfodau Pontrhydfendigaid 2023

gan Gwenllian Beynon
Erin â'r ddwy gadair

Erin â’r ddwy gadair

Y Gadair Fechan- gan Gwylon Evans

Y Gadair Fechan- gan Gwylon Evans

Erin gyda’r beirniaid y Prifeirdd Gwenallt Llwyd Ifan a Dafydd Pritchard.

Erin gyda’r beirniaid y Prifeirdd Gwenallt Llwyd Ifan a Dafydd Pritchard.

Erin yn derbyn Cadair Her Barhaol Neli a Selwyn Jones gan Neli Jones

Erin yn derbyn Cadair Her Barhaol Neli a Selwyn Jones gan Neli Jones

Erin yn derbyn y gadair fechan gan dad-cu Annie a Ffredi Ebenezer- Lyn Ebenezer

Erin yn derbyn y gadair fechan gan dad-cu Annie a Ffredi Ebenezer- Lyn Ebenezer

Erin gyda Efan Williams a John Jones

Erin gyda Efan Williams a John Jones

Erin gyda’r beirniaid y Prifeirdd Gwenallt Llwyd Ifan a Dafydd Pritchard.

Erin gyda’r beirniaid y Prifeirdd Gwenallt Llwyd Ifan a Dafydd Pritchard.

Cystadleuaeth Tlws Yr Ifanc

Cystadleuaeth Tlws Yr Ifanc

Gorsedd Tregaron, Erin yn eistedd ar maen o gartref ei hen, hen tadcu, Y Lon, Ystrad Meurig - llun ar y ffordd adref o'r eisteddfod yng ngoleuni 'r lleuad

Gorsedd Tregaron, Erin yn eistedd ar maen o gartref ei hen, hen tadcu, Y Lon, Ystrad Meurig – llun ar y ffordd adref o’r eisteddfod yng ngoleuni ‘r lleuad

Braf iawn oedd gweld cymaint o bobl ifanc yn cystadlu yn Eisteddfodau Pontrhydfendigaid eleni a nifer fawr ohonynt yn lleol. Roedd safon y cystadlu, yn ôl y beirniaid, yn uchel iawn a nifer o weithiau dros y penwythnos dywedasant gall unrhyw un yn y cystadlaethau llwyfan fod wedi ennill, ond bod rhaid i rywun ddod yn fuddugol ar y diwrnod hynny.

Nid yn unig cystadlu ar y llwyfan sydd yn Eisteddfodau Pontrhydfendigaid ond yn ogystal mae cystadlu llenyddol ac un o’r cystadlaethau hynny sydd yn bwysig i bwyllgor llenyddol ac i bwyllgor yr Eisteddfod yw tlws yr ifanc.

Dyma’r canlyniadau eleni,  llongyfarchiadau i bawb gwnaeth cystadlu ac i’r tri llwyddiannus

Tlws Yr Ifanc:  1. Erin Trysor, Llangeitho. 2. Lefi Aled Dafydd, Crymych. 3. Elan Mabbutt, Aberystwyth.

Mae Erin Trysor yn byw yn Llangeitho, yn 16 oed, ym mlwyddyn 11 yn Ysgol Gyfun Aberaeron ac wrthi ar hyn o bryd yn gorffen gwaith cwrs ac arholiadau TGAU.

Mae wedi bod yn ffodus iawn o ennill tair cadair – un yn eisteddfod ysgol pan ym mlwyddyn 6. Ar y pryd roedd cadeirydd presennol Eisteddfodau Pontrhydfendigaid, Efan Williams yn athro iddi, ac roedd John Jones Meistr y Defodau (Eisteddfodau Bont) yn beirniadu y tro hynny. Yn yr un flwyddyn enillodd y tlws Saesneg hefyd. Enillodd gadair Barddas Eisteddfod Genedlaethol ddwy flynedd yn olynol. Yn ogystal â hyn mae Erin wedi ennill gwobrau cyfansoddi mewn eisteddfodau eraill gan gynnwys Eisteddfod yr Urdd ac wedi cystadlu dros Geredigion yng nghystadleuaeth Siarad Cyhoeddus Cymru yn yr iaith Saesneg.

Mae Erin yn ymddiddori mewn llawr o bethau gan gynnwys:

Astudio Hanes Cymru / Hanes y byd a dwi’n credu yn gryf nad yw’r gwir eto wedi ei ddatgelu am lofruddiaeth JFK ac rwy’n ceisio chwilio am bob math o ddamcaniaethau i gefnogi hyn. Mae’n ychydig o obsesiwn i fod yn onest.

Rwy’n hoff iawn o dreulio amser gyda mam-gu sydd yn 90 oed a chlywed hanesion y gorffennol. Dwi hefyd yn hoffi cymdeithasu gyda fy ffrindiau gan gynnwys fy nwy cyfnither.

Mi ddewisais y ffug enw Bitw – sef enw un o deulu o gathod sydd gyda mamgu ac sydd wedi dod a llawer o lwc lenyddol i mi dros y ddwy flynedd olaf.

Ac i’r dyfodol, meddai Erin, dwi’n edrych ’mlan at gychwyn gyrru ym mis Medi. Dwi’n gobeithio dychwelyd i wneud lefel A yn y pynciau Cymraeg , Hanes ac Iechyd a Gofal. Y gobaith yw mynd i’r brifysgol gan wneud o bosib y gyfraith a throseddeg ac / neu o bosib Astudiaethau Celtaidd.

Ar hyn o bryd dwi’n meddwl am ymuno gyda’r heddlu gan ganolbwyntio ar yr ochr fforensig neu ymchwilio,  neu o bosib dilyn y Gyfraith ond mae’n bosib byddaf yn newid fy meddwl eto ac eto yn y dyfodol agos.

Y llynedd roedd Erin yn hapus iawn i fod yn ail am y gadair yn Eisteddfodau Ponrhydfendigaid ond iddi hi mae dod yn fuddugol eleni yn brofiad arbennig. Dywedodd bod cymeriad y monolog a ysgrifennodd  yn debyg iawn iddi hi.

Hoffwn ddiolch i fy athrawon a phawb sydd yn fy ysgogi i lenydda ac i gystadlu a diolch i’r beirniaid a’r Eisteddfodau Teulu James Pantyfedwen am hoffi fy ngwaith ac am y rhodd o’r gadair.

Mae Erin yn derbyn £60, Cadair Her Barhaol Neli a Selwyn Jones a chadair Fechan yn rhoddedig gan Annie a Ffredi Ebenezer. Hoffai Eisteddfodau Pontrhydfendigaid dymuno’r gorau i Erin i’r dyfodol.

Gwneuthurwr y Gadair Fechan yw Gwylon Evans.

Mwy am yr Eisteddfodau yn Caron 360

Ac yn Clonc 360

Ac ar Facebook Eisteddfodau Pontrhydfendigaid