Cynhelir eisteddfodau Teulu James Pantyfedwen Pontrhydfendigaid ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid ar benwythnos 28-30 Ebrill 2023. Edrychwn ymlaen at benwythnos prysur o gystadlu brwd a diddanwch a dathliad o gerddoriaeth, llefaru a barddoniaeth.
Bydd y cystadlu yn dechrau ar nos Wener 28 Ebrill am 5pm gyda chystadlu grŵp ac offerynnol ysgolion cynradd ac uwchradd ynghyd â chystadleuaeth y partïon canu agored.
Dydd Sadwrn daw tro’r plant a phobl ifanc i gystadlu, cynhelir seremoni coroni’r bardd ac yna nos Sadwrn cynhelir Sadwrn y Sêr am 8pm, sef noson o gystadlu o fyd y sioeau cerdd a’r theatr. Pinacl y noson fydd cystadlaethau’r Unawd Sioe Gerdd a’r Monolog Agored, a fydd yn cyd-redeg, a bydd y perfformiad gorau ar y noson yn haeddiannol o Gwpan Her Moc Morgan.
Ar y dydd Sul wedyn daw tro’r “hen stagers” i gystadlu. Bydd y cystadlu yn cychwyn gyda’r Ddeuawd Agored, yna bydd amrywiaeth o gystadlaethau canu a llefaru cyn seremoni cadeirio’r bardd am tua 3pm. Bydd yr Her Unawd Agored a’r Llefaru Unigol wedyn yn cloi’r cystadlu am y penwythnos, cyn Talwrn y Beirdd am 7pm ym mar y Pafiliwn.
Dewch yn llu i gefnogi eisteddfodau 2023. Mae’n braf bod nôl, a chewch wledd o gystadlu yn Bont!